Swyddfa y Cynulliad yn Llandudno
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal y cyfarfod cabinet cyntaf erioed yng ngogledd Cymru heddiw.
Mae’r cyfarfod, sydd wedi ei gynnal yn swyddfeydd y llywodraeth yng Nghyffordd Llandudno, yn digwydd flwyddyn union ers i staff symud i’r safle.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, nad dyma fydd y cyfarfod olaf yn y swyddfa.
“Rydw i hefyd yn bwriadu cynnal cyfarfodydd cabinet mewn ardaloedd eraill ar draws Cymru yn y dyfodo,” meddai.
Yn ôl y prif weinidog, mae angen i’r llywodraeth gael “presenoldeb gweledol” yn y gogledd.
“Llywodraeth Cymru yw hon, ac mae hi ond yn iawn bod busnes y llywodraeth yn cael ei gynnal ar draws y wlad.”
Daw’r cyfarfod llai na thair wythnos ar ôl i undeb gwasanaethau cyhoeddus a masnachol y PCS rybuddio eu bod nhw’n ystyried streicio dros gynlluniau i gau swyddfeydd y llywodraeth yn y Drenewydd, Llandrindod a Chaernarfon.
Mae’r cynlluniau gan Lywodraeth Cymru yn argymell y gallai gweithwyr yng Nghaernarfon gael eu symud i swyddfeydd yng Nghyffordd Llandudno, dros 25 milltir i ffwrdd.
Cafodd swyddfeydd Cyffordd Llandudno eu hadeiladu’n wreiddiol yn rhan o gynllun er mwyn symud gweision sifil allan o bencadlys Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd.
Roedd Carwyn Jones yno i agor y swyddfa yn swyddogol o flaen 650 o staff fis Medi diwethaf.