Cheryl Gillan
Mae Ysgrifennydd Cymru wedi ei chyhuddo o roi Lloegr o flaen Cymru wrth wrthwynebu cynllun i adeiladu trên cyflym drwy ei hetholaeth.

Dywedodd Peter Hain, Ysgrifennydd Cymru’r wrthblaid, y byddai’r trên o fudd i Gymru ond bod Cheryl Gillan wedi penderfynu rhoi trigolion Chesham ac Amersham yn gyntaf.

Dywedodd fod y ffaith ei bod hi’n Aelod Seneddol yn Lloegr wedi arwain at wrthdaro buddiannau.

Mae pobol etholaeth Chesham ac Amersham yn Buckingham yn protestio’n ffyrnig yn erbyn y trên chwim a fydd yn teithio o Firmingham i Lundain.

Ond yn ôl Peter Hain fe fydd y rheilffordd £32 biliwn yn ei gwneud hi’n gynt i bobol yn rhai rhannau o Loegr gyrraedd gogledd Cymru drwy orsaf trenau Crewe.

Mae Cheryl Gillan eisoes wedi dweud ei bod hi’n anghytuno â gweddill Cabinet Llywodraeth San Steffan ar y pwnc.

‘Blaenoriaeth i Gymru’

“Mae arbenigwyr ar reilffyrdd a hyd yn oed Adran Trafnidiaeth ei llywodraeth ei hun yn mynnu y bydd y prosiect yn torri amseroedd teithio rhwng Llundain a gogledd Cymru,” meddai Peter Hain.

“Fe allai’r prosiect fod yr un mor bwysig i Gymru a thrydaneiddio’r rheilffordd rhwng Abertawe a Llundain.

“Ond oherwydd bod y rheilffordd yn mynd drwy ei hetholaeth hi mae Ysgrifennydd Cymru yn ymgyrchu yn ei erbyn.

“Roedd hi’n anochel y byddai’r gwrthdaro buddiannau yma’n digwydd pan benderfynodd David Cameron nad oedd eisiau ASau o Gymru yn ei Gabinet.

“Mae’n iawn iddi gynrychioli ei hetholaeth ond od ydi hi eisiau aros yn y Cabinet fe ddylai hi roi’r flaenoriaeth i Gymru.”