Michael Jackson
Mae teulu Michael Jackson wedi ffraeo ar ôl i’w fam gyhoeddi y bydd cyngerdd er cof amdano yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd.

Datgelodd Katherine Jackson yn ystod cynhadledd i’r wasg y bydd y sioe yn cael ei gynnal yn Stadiwm y Mileniwm ar 8 Hydref, dros ddwy flynedd ers marwolaeth y seren bop.

“Roedd Michael wedi rhoi ei fywyd cyfan i’r byd, ac mae ei gariad, a’i gerddoriaeth yn iachau’r blaned,” meddai.

Ychwanegodd y byddai “cymaint o aelodau o’r teulu ac sydd ar gael” yn gwneud y daith i Gaerdydd ar gyfer y cyngerdd cwbwl unigryw.

‘Amhosib cefnogi’

Ond mewn datganiad dywedodd brodyr Michael Jackson, Jermaine a Randy Jackson, fod cynnal y gyngerdd yn hwyrach ymlaen eleni yn “amhriodol”.

Bydd yn cael ei gynnal pythefnos yn unig ar ôl dechrau achos llys Conrad Murray, y doctor a gyhuddwyd o ddynladdiad anwirfoddol yn dilyn marwolaeth Michael Jackson.

“Mewn cynhadledd i’r wasg yn Los Angeles heddiw cyhoeddwyd cyngerdd er cof am Michael a fydd yn cael ei gefnogi gan y teulu,” medden nhw.

“Rydyn ni eisiau ei gwneud hi’n glir nad ydi hyn yn adlewyrchu barn y teulu Jackson cyfan.

“Rydyn ni’n cefnogi unrhyw ddigwyddiad sy’n anrhydeddu ein brawd, ond yn ei chael hi’n amhosib cefnogi digwyddiad a fydd yn digwydd yn ystod achos llys troseddol sy’n ymwneud â marwolaeth Michael.

“Fel y mae pawb yn gwybod bydd yr achos yn dechrau ar 20 Medi, a bydd y cyngerdd Michael Am Byth yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ar 8 Hydref.”

Ychwanegodd y brodyr fod y penderfyniad i fwrw ymlaen â’r cyngerdd yn dangos nad oedd y trefnwyr Global Live wedi gwrando ar “eu barn gref nhw yn ystod trafodaethau ym mis Ebrill”.

“Fe ddaw amser priodol er mwyn cynnal cyngerdd gwych er cof am Michael. Ond ar hyn o bryd y deyrnged gorau iddo fydd ceisio sicrhau cyfiawnder yn ei enw.”

‘Hwb’

Does dim perfformwyr wedi eu cyhoeddi ar gyfer y cyngerdd eto ond mae hysbyseb ar wefan y digwyddiad yn addo y bydd “artistiaid gorau’r byd” yn ymddangos.

E fydd y cyngerdd yn cael ei ddarlledu yn fyw i 30 gwlad mewn 2D a 3D. Bydd yn codi arian at dair elusen gan gynnwys Aids Project yn Los Angeles.

Dywedodd Roger Lewis, prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru y bydd y digwyddiad yn “heb anferth i Gymru”.