Mae arweinydd cyngor Ceredigion wedi dweud y bydd rhaid cynnal trafodaethau dwys er mwyn penderfynu a ydyn nhw am fwrw ymlaen â chynllun i godi ysgol 3-19 oed erbyn 2013.

Yn ôl Keith Evans, sy’n gynghorydd dros ardal Llandysul, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio “prynu amser” drwy newid amodau ac amserlen ariannu ysgolion newydd.

Cyhoeddodd Leighton Andrews bythefnos yn ôl fod y Llywodraeth yn mynd i ostwng eu cyfraniad ariannol at ysgolion newydd dan gynllun ‘Ysgolion yr 21ain Ganrif’ o 70% i 50%.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gynghorau sydd eisoes wedi cyflwyno cais am ysgol newydd dan gynllun y Llywodraeth ail-ystyried a oes ganddyn nhw’r adnoddau i ariannu’r prosiectau.

Roedd y cais ar gyfer ysgol newydd Llandysul eisoes wedi ei gyflwyno pan ddaeth y cyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg, ac roedden nhw’n disgwyl clywed a fu’r cais yn llwyddiannus erbyn yr haf.

Petai’r cais yn llwyddiannus, roedden nhw’n disgwyl agor drysau’r ysgol newydd, i 1,800 o blant 3-19 oed, erbyn 2013/14.

Mae’r cynllun dadleuol gan Gyngor Sir Ceredigion yn argymell uno ysgol uwchradd Dyffryn Teifi ac ysgolion cynradd Aberbanc, Capel Cynon, Coedybryn, Llandysul a Phontsian, gan roi’r cyfan ar un campws.

Mae’r cynllun newydd yn golygu y bydd yn rhaid i gynghorau ail-gyflwyno’r ceisiadau diwygiedig erbyn mis Medi eleni, cyn dechrau ar y broses o gymeradwyo.

“Roedd yr arian i fod i ddod trwodd erbyn 2012,” meddai Keith Evans, “ond nawr, fydd hi’n agosach at 2014 ar yr arian yn cyrraedd.”

Yr unig ffordd, yn ôl Keith Evans, y gall yr amserlen wreiddiol gael ei gwireddu yn Llandysul bellach yw os bydd y Cyngor Sir yn penderfynu cyfrannu miliynau’n rhagor er mwyn rhoi’r prosiect ar waith nawr, neu fenthyca arian ar ei gyfer.

Dyna’r penderfyniad y bydd rhaid i’r Cyngor Sir ei drafod dros y misoedd nesaf, meddai.

“Rhwng nawr ac ail-gyflwyno’r cais bydd angen i ni drafod a ydyn ni’n blaenoriaethu’r cynllun ar draul pethau eraill ai peidio,” meddai.

“Bydd angen miliynau mwy o arian o goffrau’r Cyngor Sir nawr – a hynny ar adeg pan fod crebachu ar goffrau’r Cyngor.”