Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cyhoeddi ei fod wedi’i siomi cyn lleied ran fydd Cymru’n cael ei chwarae yng Ngemau Olympaidd Llundain.

Dywedodd y byddai wedi hoffi gweld llawer rhagor o chwaraeon, yn hytrach na phêl-droed yn unig, yn cael eu cynnal yng Nghymru.

Ychwanegodd y dylai mwy o gwmnïau Cymraeg fod wedi ceisio ac ennill cytundebau â’r Gemau.

Bydd y cystadlaethau cyntaf yn cael eu cynnal blwyddyn i heddiw yn Stadiwm y Mileniwm.

Prif gŵyn y gweinidog yw nad yw’r trefnydd wedi gwneud rhagor o ddefnydd o leoliadau parod a thirwedd Cymru.

“Mae’n biti nad yw Cymru’n cael ei ddefnyddio ar gyfer y cystadlu beicio mynydd, er enghraifft,” meddai.

“Mae’r trefnwyr yn mynd ati i adeiladu trac beicio artiffisial yn rhywle arall, ond mi fyddai wedi bod yn haws dod i Gymru i ddefnyddio’r cyfleusterau gwych sydd yma’n barod.”

‘Diffyg hyder’

Mynegodd Mr Jones wrth raglen BBC Breakfast ei fod hefyd yn siomedig gyda’r nifer fach o fusnesau yng Nghymru sydd wedi llwyddo i ennill cytundebau i ddarparu gwasanaethau neu adeiladu cyfleusterau ar gyfer y gemau.

O’r £6 biliwn sydd wedi’i rannu allan mewn cytundebau i gwmnïau Prydeinig, dim ond £38 miliwn a ddyfarnwyd i gwmnïau yng Nghymru.

“Rydw i wedi trafod gyda rhai o’r gymuned fusnes ar y mater hwn,” meddai. “Does dim ateb penodol, ond dwi’n credu fod yna ddiffyg hyder ymysg busnesau yng Nghymru i geisio am gytundebau yn y lle cyntaf, felly mae angen delio â hynny.”

Mae’r Alban a Gogledd Iwerddon ill dau wedi gwneud yn gymharol well na Chymru yn hynny o beth.

Wedi dweud hynny, mae’r Prif Weinidog yn hyderus y bydd y gemau Olympaidd yn dal i fod yn gyfle gwych i ddenu ymwelwyr i Gymru.

Denu ymwelwyr

Mae bron i flwyddyn union nes bod y gemau’n cychwyn, ac fe fydd y digwyddiad cyntaf yng Nghymru, gem bêl-droed yn Stadiwm y Mileniwm, yn digwydd dau ddiwrnod cyn y seremoni agoriadol.

Bydd 11 o gemau pêl-droed, dynion a merched, yn cael eu cynnal yn y Stadiwm, yn cynnwys gem medal efydd y dynion.

Ychwanegodd Carwyn Jones ei fod yn falch fod Cymru wedi cael ei ddewis gan nifer o wledydd fel safle ymarfer a pharatoi o flaen llaw.

Mae 32 o leoliadau o’r fath ar gael o amgylch Cymru ar gyfer ymarfer amrywiaeth o gampau gwahanol, ac mae timau Paralympaidd o Awstralia a Seland Newydd ymysg y rhai sydd eisoes wedi archebu llefydd.

Cyhoeddodd Carwyn Jones ei fod yn awyddus iawn i Gymru geisio denu gymaint o ymwelwyr yma yn ystod y cyfnod a fydd bosib.

“Mae’n rhaid i ni gymryd y cyfle hwn i ddenu pobl yma, yn enwedig o ystyried ein bod ni prin ddwy awr o deithio o Lundain, a llawer iawn agosach na’r Alban, er enghraifft.

“Rhaid i ni geisio temtio pobl allan o Lundain, yn enwedig y rhai sydd â diddordeb mewn golff efallai, i ddangos safon y cyfleusterau sydd gennym yma.

“Ond eto, nid yn unig golff, ond pob math o chwaraeon. Rydw i am i bobl ddod i Gymru a’u bod nhw’n gadael gyda barn uchel am y wlad a’u bod nhw eisiau dod yn ôl yma yn y dyfodol.”