Dtblygiadau tai
Mae symudiad ar droed i greu ymgyrch genedlaethol yn erbyn datblygiadau tai ‘diangen’ a ‘niweidiol’.

Ddoe, fe ddaeth nifer o grwpiau ac ymgyrchwyr lleol o ogledd Cymru at ei gilydd ym Modelwyddaan ac fe gytunwyd i geisio creu mudiad ymgyrchu ar draws y wlad.

Fe fydd adroddiad yn cael ei sgrifennu a chyfarfod pellach yn cael ei gynnal ar ail ddydd Sadwrn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae trefnydd y cyfarfod ddoe hefyd yn gobeithio galw grwpiau o bob rhan o Gymru at ei gilydd i gyfarfod yn Aberystwyth.

Datblygiadau ‘dinistriol’

Roedd pob un o’r grwpiau’n ymgyrchu yn erbyn datblygiadau tai sydd, medden nhw, yn peryglu eu cymunedau ac am ddinistrio’r amgylchedd a diwylliant.

Roedden nhw’n cynnwys grwpiau o Fodelwyddan ei hun, o Lan Conwy, Dwygyfylchi a’r Rhyl ac roedd neges i’r cyfarfod gan ymgyrchwyr o Brestatyn.

Roedd cynrychiolwyr yno hefyd o Deffro’r Ddraig, grŵp sydd wedi ymgyrchu’n llwyddiannus yn erbyn cytundeb codi tai rhwng awdurdodau yn Lloegr a chynghorau yng Nghymru.

Nhw sy’n trefnu’r cyfarfod yn yr Eisteddfod ac yn crynhoi casgliadau’r cyfarfod ddoe.

Jill Evans yn cefnogi

Roedd yr Aelod o Senedd Ewrop, Jill Evans, yn siarad yn y cyfarfod ac fe ddywedodd hi ei bod yn cefnogi’r syniad o ymgyrch genedlaethol.

“Mae’n gyffrous iawn,” meddai wrth Golwg 360. “Roedd yna deimlad fod pobol yn deffro. Mae cwestiynau’n codi am ddemocratiaeth o fewn y system gynllunio.

“Mae ymgyrchwyr wedi sylweddol i bod rhai drysau wedi cau iddyn nhw a dydyn nhw ddim yn gllu dylanwadu ar y polisïau.”

Mae Jill Evans wedi bod yn gweithio gydag ymgyrchwyr yn erbyn tua 2,000 o dai ym Modelwyddan, gan gyflwyno deiseb i Senedd Ewrop a chodi cwestiynau ar y lefel honno am ddiffyg ymgynghori ynglŷn â’r cynllun.

Rôl cynghorau a’r Llywodraeth

Roedd yr ymgyrchwyr wedi dechrau trwy feirniadu cynghorwyr ond mae amryw bellach yn beio Llywodraeth y Cynulliad am orfodi cynghorau i roi mwy o dai nag sydd eu hangen yn eu Cynlluniau Datblygu Lleol.

Er bod y Llywodraeth wedi gwadu bod targedau’n cael eu gosod, mae’r grwpiau’n dweud bod cynghorwyr yn ofni colli rheolaeth ar eu cynlluniau ac felly’n dilyn canllawiau’r Llywodraeth.

Fe fyddai angen ymchwilio i weld a yw hynny’n wir, meddai Jill Evans, ac fe fydd angen holi i weld ar ba sail y mae ffigurau poblogaeth y Llywodraeth wedi’u creu.

Mae’r rheiny’n newid yn gyson ac yn aml, meddai, ond fe allai’r polisïau cynllunio effeithio ar gymunedau am amser hir.

Eisiau ymgyrch ar draws y pleidiau

Fe ddywedodd Dan Worsley, y Ceidwadwr o Lan Conwy a alwodd y cyfarfod, ei fod eisiau creu ymgyrch ar draws y pleidiau ac i gynnwys grwpiau sy’n ymgyrchu tros achosion tebyg mewn rhannau eraill o Gymru.

“Yr egwyddor yw clymu’r llinynnu at ei gilydd i greu un rhaff sy’n gallu symud llong fawr,” meddai. “Dw i’n credu bod y rhan fwya’ o’r gwrthbleidiau gyda ni ond fydden i’n hoffi cael cefnogeth ACau Llafur hefyd.”

Yn ardal Conwy, meddai, roedd y cyngor wedi cynllunio ar gyfer rhagor o dai nag yr oedden nhw eisiau oherwydd pwysau gan y Llywodraeth.

Roedd poblogaeth yr ardal yn syrthio a’r peryg oedd bod rhagor o bobol oedrannus o’r tu allan yn symud i mewn gan wthio prisiau’n uwch a’i gwneud hi’n anoddach fyth i deuluoedd ifanc gystadlu ac aros yn yr ardal.

“Yng Nglan Conwy, er enghraifft, mae’r bobol leol yn mynd yn lleiafrif yn eu pentre’ eu hunain. Mae’n wir mai Sais ydw i sydd wedi dod i mewn i’r ardal ond doeddwn i ddim yn ymwybodol o’r broblem ar y pryd.”