Lembit Opik
Mae Aelod Seneddol Ceidwadol wedi ymuno yn y ffrae rhwng Lembit Opik ac aelodau eraill o’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Yn ôl Glyn Davies, a gurodd Lembit Opik i ennill sedd Maldwyn yn Nhŷ’r Cyffredin, fe ddylai ei ragflaenydd ymddiheuro am sylwadau a wnaeth mewn maniffesto gwleidyddol.

Roedd y daflen i gefnogi ymgais Lembit Opik i fod yn Faer Llundain yn rhoi’r bai am golli’r sedd seneddol ar y cyn Aelod Cynulliad, Mick Bates.

Yn ôl Glyn Davies ar ei flog, roedd y sylwadau’n “hollol chwydlyd”. “Fy nghyngor i Lembit,” meddai, “yw bod yn ddyn, derbyn y glec a derbyn cyfrifoldeb – ac anfon ymddiheuriad ar bapur i Mick Bates”.

Y cefndir

Eisoes, fe fu un o ACau eraill y Democratiaid, Peter Black, yn beirniadu Lembit Opik ond mae yntau bellach yn dweud nad oedd wedi cymeradwyo’r paragraff perthnasol yn y manifffesto.

Yn ôl hwnnw, Mick Bates oedd ar fai am golli’r sedd i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan a’r Cynulliad, ar ôl iddo gael ei ffeindio’n euog o ymosod ar weithiwr iechyd ar ôl noson allan yng Nghaerdydd.

Roedd Lembit Opik hefyd wedi cael llawer o sylw am gyfres o garwriaethau anffodus, am ymddangosiadau ar raglenni adloniant ar y teledu ac am golofn bersonol yn y Sunday Sport.