Rowan Williams, Archesgob Caergaint
Archesgob Caergaint fydd yn cyflwyno un o’r prif wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni.

Fe fydd Rowan Williams yn cyflwyno gwobr Dewis y Bobl yn y Lle Celf, yr arddangosfa gelf a chrefft.

Mae’r Archesgob yn un o noddwyr Sefydliad Josef Herman sy’n gyfrifol am roi’r wobr o £500 am y gwaith celf mwya’ poblogaidd.

Fe gafodd y gronfa ei sefydlu yn 2002 i hyrwyddo gwerthfawrogiad o’r celfyddydau ac er cof am yr arlunydd o Wlad Pwyl a anwyd union 100 mlynedd yn ôl.

Cofio ‘Jo Bach’

Fe dreuliodd ‘Jo Bach’ flynyddoedd yn byw yn Ystradgynlais gan baentio lluniau o bobol y Cymoedd glo ac fe enillodd Wobr Aur yr Eisteddfod Genedlaethol am Gelf yn Llanelli yn 1962.

Mae gwobr Dewis y Bobl yn cael ei rhoi am y gwaith sy’n cael mwya’ o gefnogaeth mewn pleidlais gan ymwelwyr â’r Lle Celf.

Yn y gorffennol, mae’r cyhoedd wedi cytuno â’r beirniaid a rhoi’r wobr i enillydd y Fedal Aur ond weithiau maen nhw’n mynd i gyfeiriad cwbl wahanol.

Fe fydd y seremoni wobrwyo yn Y Lle Celf brynhawn Sadwrn ola’r Eisteddfod.