Dionne Bromfield (Martin Mysoe CCA 2.0)
Fe lwyddodd merch fedydd Amy Winehouse i berfformio mewn gig yn y Cymoedd neithiwr, er gwaetha’r newyddion am farwolaeth y gantores brynhawn ddoe.

Roedd Dionne Bromfield yn canu ym Mhenwythnos Mawr Pontypridd ac, yn ôl y trefnwyr, fe roddodd berfformiad da.

Roedd y gantores gythryblus wedi cymryd y ferch 15 oed o dan ei hadain ac wedi ei harwyddo i’w label ei hun. Gyda hi y gwnaeth ei pherfformiad ola’ nos Fercher.

Yn ôl Christian Hanagan, pennaeth strategaeth yr ŵyl, roedd y dyrfa’n ymwybodol o’r amgylchiadau ac wedi rhoi croeso mawr i’r gantores ifanc.

Cefnogwyr yn casglu

Yn Llundain, mae cefnogwyr wedi bod yn cynnal gwylnos y tu allan i fflat Amy Winehouse yn Camden.

Roedd yna ddistawrwydd llethol wrth i’r corff gael ei gario o’r adeilad lle’r oedd hi wedi cael ei chanfod yn farw.

Does dim esboniad eto am ei marwolaeth ond roedd y gantores 27 oed wedi diodde’n hir gyda phroblemau alcohol a chyffuriau.


[MSOffice1]