Y burfa yn Fawley (llun o wefan y cwmni)
Dyn o Lyn Ebwy oedd y gweithiwr olew a gafodd ei ladd mewn damwain mewn purfa ddydd Iau.

Fe gafodd enw Anthony McGowan 57 oed ei gyhoeddi gan yr heddlu dros y Sul.

Fe fu farw’r rigiwr yn Ysbyty Cyffredinol Southampton ar ôl y digwyddiad ym mhurfa Exxon Mobil yn Fawley yn y New Forest.

Mae’r cwmni, y Gweithgor Iechyd a Diogelwch a’r cwmni i gyd yn cynnal ymchwiliad i’r ddamwain ond mae’n ymddangos bod Anthony McGowan wedi cael ei ddal o dan bibellau.

Y burfa yn ne Lloegr yw’r fwya’ yn y Deyrnas Unedig ac un o’r rhai mwya’ cymhleth yn Ewrop. Mae’n delio gyda 2,000 o longau bob blwyddyn.