Leighton Andrews
Mae angen i addysg iaith Gymraeg ddatblygu ynghynt mewn rhai ardaloedd os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd eu targedau, yn ôl adroddiad newydd.

Mae 21.8% o ddisgyblion saith oed yn cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 25% erbyn 2015 a 30% erbyn 2020.

Ddoe cyhoeddodd y llywodraeth yr adroddiad blynyddol cyntaf i’w Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.

Mae’n dangos fod gwahaniaethau mawr yn y ddarpariaeth addysg Gymraeg o ardal i ardal.

Mae 100% o ddisgyblion saith oed yn cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yng Ngwynedd, a 70% ar Ynys Môn.

Ond mewn rhai ardaloedd eraill mae’r canran yn llawer is – ond dim ond 5% yn Sir y Fflint a Blaenau Gwent, a 4% yng Nghasnewydd.

Sir y Fflint a Chastell-nedd yw’r unig ardaloedd sydd heb weld cynnydd yn nifer y plant dan saith sy’n cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ers y flwyddyn 2000.

“Ym maniffesto etholiadol y Blaid Lafur dywedom y byddwn yn cyflawni’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn ystod y Cynulliad nesaf,” meddai Leighton Andrews.

“Mae nifer o heriau yn ein wynebu ni oll yn ystod y cyfnod nesaf o weithredu. Fodd bynnag, bydd fy Adran yn parhau i weithio gyda’r holl bartneriaid i sicrhau bod targedau 2015 y Strategaeth yn cael eu cyflawni a bod y Strategaeth yn eistedd ochr yn ochr â’r gwaith sy’n cael ei wneud i gynyddu defnydd y Gymraeg yn ei cymunedau a’u bod yn ategu ei gilydd.

“Yr oedd lansio’r Strategaeth yn gam mawr ymlaen o ran pennu cyfeiriad strategol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg. Rwy’n falch iawn o weld bod cynnydd wedi’i wneud o ran gweithredu’r Strategaeth.”