Mae gwylwyr y glannau wedi dod o hyd i gorff dyn yn Afon Menai.

Cafodd y corff ei weld gan berson oedd yn cerdded heibio ym Miwmares ddydd Iau.

Anfonwyd criw gwylwyr y glannau Penmon a bad achub Biwmares i dynnu’r corff o’r dŵr.

Dywedodd yr heddlu nad oedden nhw’n ystyried y farwolaeth yn un amheus.

Mae’r heddlu wedi adnabod y corff ond heb ei enwi. Fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal yn ddiweddarach.