Simon Thomas
Roedd Aelod Cynulliad yn rhan o lawnsiad melin drafod (think tank) newydd  yn Llundain ddoe.

Roedd Simon Thomas, AC Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn lansiad melin drafod ‘Green House’, a fydd yn hyrwyddo syniadau “ecolegol ac egalitaraidd” mewn gwleidyddiaeth.

Mae’r Aelod Cynulliad o Blaid Cymru yn aelod o fwrdd ymgynghorol y grŵp, sy’n cynnwys academyddion, ymgyrchwyr, awduron a gwleidyddion eraill, gan gynnwys yr AS Llafur Michael Meacher.

Dywedodd cydlynydd y grŵp, Brian Heatley, wrth Golwg 360, fod ffurfio’r grŵp wedi digwydd “ar hap” yn wreiddiol, wrth i aelodau sylfaenol y grŵp dechrau drafod.

“Ond dwi hefyd yn meddwl bod llwyddiant Caolin Lucas (AS cyntaf y Blaid Werdd) wedi gwneud I ni ddod i’r casgliad bod angen y grŵp trafod fel hyn, a bod cyfle i ni wneud gwahaniaeth.”

Yn ôl Brian Heatley, mae pob un o aelodau’r grŵp yn “rhannu’r un daliadau gwyrdd cyffredinol”.

Yn ôl gwefan y grŵp, maen nhw’n galw am “gyd-weithredu enfawr ar ein hinsawdd, ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ar gydraddoldeb… ac mewn gofal go iawn am y dyfodol.”

“Rydyn ni’n credu bod perchnogi’r tir yn gamgymeriad hanesyddol, ac nad yw anifeiliaid yn berchen i ni,” meddai.

Dychwelyd at y ‘problemau mawr’

Yn ôl Simon Thomas, mae lansio amcanion grŵp y ‘Green House’ yn gyfle i wleidyddion brofi eu gwerth yn dilyn drewdod sgandal y News of the World.

“Mae’n gyfle i ganolbwyntio ar y problemau mawr sy’n wynebu ein cymdeithas – a chynhyrchu atebion ar sail ymchwil trwyadl,” meddai.

Dywedodd Simon Thomas fod “effaith y newid yn ein hinsawdd bellach yn amlwg”.

“Rwy’n gobeithio y bydd cymryd rhan yn y fenter bwysig hon gyda phobl o bleidiau gwleidyddol eraill a phobl heb ymlyniad pleidiol yn amlygu syniadau gwyrdd ar gyfer y dyfodol.”