Rebecca Aylward
Mae’r rheithgor yn achos llys llanc sydd wedi ei gyhuddo o ddenu ei gyn-gariad i goedwig a’i llofruddio wedi cilio er mwyn ystyried ei ddedfryd.

Cafodd Rebecca Aylward, 15, o Faesteg, Pen-y-Bont ar Ogwr, wedi ei churo i farwolaeth ym mis Hydref y llynedd.

Honnir i’r bachgen 16 oed ymosod arni â charreg mewn coedwig ddiarffordd ger Abercynffig.

Clywodd y rheithgor yn Llys y Goron Abertawe fod y llanc wedi cael cynnig brecwast am ddim gan gyfaill pe bai’n cyflawni’r llofruddiaeth.

Dywedodd y llanc wrth y llys bod y fet yn jôc ac nad oedd neb wedi ei gymryd o ddifri.

Cyfaddefodd ei fod wedi dweud wrth ei gyfeillion ei fod eisiau ei lladd hi ond nad oedd wedi bwriadu gwneud hynny go iawn.

Mae’n honni fod Rebecca wedi ei llofruddio ar ôl i ymgais i ffugio ei marwolaeth fynd o chwith, a’i bod hi wedi ei lladd gan ei ffrind gorau.

Ciliodd y rheithgor er mwyn ystyried y ddedfryd heddiw ar ôl achos llys sydd wedi parhau mwy na pedair wythnos.