Flyer Steddfod Wrecsam - gigs Cymdeithas
Fe fydd dau ymgyrchydd iaith yn seiclo dros 70 milltir i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam er mwyn tynnu sylw at y peryglon i gymunedau Cymraeg eu hiaith.

Bydd Robin Crag a Kali Stuart yn seiclo o’u cartref yn Nebo yng Ngwynedd draw i gyfarfod Cymdeithas yr Iaith ar ddydd Mawrth yr Eisteddfod.

Yn ystod eu siwrne fe fyddan nhw’n ymweld â nifer o gymunedau gan gynnwys y Parc, Gwynedd, ble mae bygythiad i’r ysgol leol.

Bydd yr Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru, Llyr Huws Griffiths, yn ogystal â Nia Lloyd o ymgyrch Deffro’r Ddraig, Wrecsam a Gwenno Puw o ymgyrch Ysgol y Parc, ger y Bala, yn annerch y cyfarfod.

“Mae dyfodol y Gymraeg yn iaith gymunedol o dan fygythiad mawr, ac mae angen tynnu mwy o sylw at y potensial i warchod a chreu cymunedau Cymraeg Cynaliadwy,” meddai Robin Crag.

“Mae nifer o ffactorau yn milwrio yn erbyn y Gymraeg yn ein cymunedau. Mae bygythiadau i ysgolion cymunedol, ac mae ideoleg y Llywodraeth San Steffan yn annog i bobl ifanc symud i ffwrdd o’u cymunedau i chwilio am waith yn cyfrannu at yr her.

“Dw i’n beicio i’r Eisteddfod trwy nifer o gymunedau gwahanol, am fy mod i’n credu y gall bob cymuned yng Nghymru fod yn un gynaliadwy yn amgylcheddol ac yn ieithyddol.”

Fe fydd y ddau seiclwr hefyd yn mynd draw at gig Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i gyflwyno’r siarter i Bryn Fôn a’r Band Al Lewis a Daniel Lloyd a fydd yn perfformio yn yr Orsaf Ganolog (Central Station) yng nghanol dref Wrecsam ar y noson honno.

“Rydyn ni’n falch o gael cefnogaeth yr artistiaid i’r siarter,” meddai Robin Crag.

“Gobeithio y bydd nifer o bobl yn dod i gefnogi’r ymgyrch dros ein cymunedau yn ogystal â mwynhau unig gig Bryn a’i fand llawn yn ystod yr Eisteddfod.”