Ysbyty Treforys
Mae mwy na 150 o gleifion sydd wedi cael llawdriniaeth ar y galon mewn ysbyty yn Abertawe wedi cael gwybod ei fod yn bosib eu bod nhw wedi dal y firws peryglus Hepatitis B.

Rhybuddiodd penaethiaid iechyd Ysbyty Treforys y cleifion ar ôl darganfod fod gan fenyw fu farw yno fis diwethaf y firws.

Mae ymchwiliad brys yn mynd rhagddo i ddod o hyd i darddiad yr haint ac mae unrhyw lawdriniaeth gardiaidd sydd ddim yn flaenoriaeth wedi ei atal am y tro.

Fe allai unrhyw glaf sydd wedi cael llawdriniaeth yn uned cardiothorasig yr ysbyty rhwng 11 Mawrth a 17 Ebrill fod wedi eu heintio.

Mae’r cleifion rheini wedi cael cynnig profion gwaed i weld a ydyn nhw wedi dal y firws.

Mynnodd rheolwyr y bwrdd iechyd sy’n gyfrifol am yr ysbyty heddiw fod y siawns bod unrhyw un arall wedi ei heintio yn “isel”.

Deallir fod teulu’r claf sydd wedi marw, mam sydd heb ei henwi, wedi gwneud cwyn swyddogol.

Fe fu farw’r ddynes ar ôl cael llawdriniaeth lwyddiannus yn yr ysbyty a chael ei rhyddhau ar ôl gwellhad cyflym.

Daeth i’r amlwg yn ddiweddarach ei bod hi wedi dal y firws Hepatitis B.

Ymchwiliad yn parhau

Mae’r ymchwiliad yn yr ysbyty eisoes wedi penderfynu nad staff neu aelodau o’i theulu oedd tarddiad yr heintiad.

Ychwanegodd penaethiaid iechyd eu bod nhw eisoes wedi profi’r gwaed sy’n cael ei ddefnyddio yn yr ysbyty.

Maen nhw wedi penderfynu defnyddio offer gwahanol ar gyfer pob llawdriniaeth er mwyn ceisio lleihau’r risg o heintiad.

“Cafodd y Bwrdd Iechyd wybod am y broblem ar ôl i glaf diagnosis o Hepatitis B ar ôl cael ei chyhoeddi o’r ysbyty,” meddai llefarydd ar ran y bwrdd. “Yn anffodus fe fu’n claf farw yn ddiweddarach.

“Mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn cynnal ymchwiliad i hyn.

“Mae’n debygol fod y firws wedi dod o glaf arall yn yr uned cardiothorasig.

“Dyw’r ymchwiliad dechreuol heb ddod o hyd i’r tarddiad ac mae’r ymchwiliad yn parhau. Rydyn ni hefyd yn comisiynu adolygiad allanol.”

Dywedodd mai dim ond cleifion cardiothorasig oedd yn yr ysbyty yn ystod y cyfnod a nodwyd sydd wedi cael llythyr. Ni fydd angen prawf gwaed ar unrhyw gleifion eraill.

Maen nhw hefyd wedi cysylltu â  meddygon teulu’r cleifion sydd wedi ei heffeithio ac wedi sefydlu llinell gymorth ar gyfer y cleifion.

Y firws

Mae Hepatitis B yn haint firaol sy’n lledaenu drwy’r corff drwy waed a hylifau corfforol eraill.

Mae’n gallu achosi haint difrifol sy’n clirio ar ôl ychydig fisoedd ond dyw 30% o’r rheini sy’n ei gario ddim yn dangos unrhyw symptomau o gwbl, ac mae’r rhan fwyaf o oedolion yn dod drosto.

Mewn achosion prin mae’n gallu arwain at ddifrod difrifol i’r arennau a marwolaeth.

Dylai unrhyw gleifion sydd â phryderon gysylltu â’u meddyg teulu neu Wasanaeth Iechyd Cymru ar 0845 4647 am ragor o wybodaeth.