Bandiau y Sin Roc Gymraeg
Mae angen strategaeth i gerddoriaeth Gymreig a Chymraeg, yn ôl y sylwebydd a chyn aelod o fand yr Anrhefn, Rhys Mwyn.

Mae diffyg gwybodaeth ymhlith bobol ifanc o’r grwpiau Cymraeg sydd ar gael, meddai, ac mae’n cyhuddo Bwrdd yr Iaith o ddiffyg gweledigaeth yn y maes.

“Pam mae pobol yn cwyno bod ‘na ddim gigs? Roedd Maffia Mr Huws, Anrhefn a Cyrff yn trefnu eu gigs eu hunain – ddim yn eistedd ac yn disgwyl i bobol eraill eu trefnu,”  meddai.

“Mae athrawon yn dweud wrtha’ i wedyn bod plant ddim yn cymryd sylw o grwpiau pop/roc Cymraeg  – dyma’r ymateb dw i’n cael.

“Mi faswn i’n cyhuddo Bwrdd yr Iaith am golli’r weledigaeth oedd ganddyn nhw tua 2003. Er eu bod nhw’n gwneud gweithdai, DJio ac yn cynnal gweithdai Ed Holden dydyn nhw ddim yn dod â bandiau byw Cymraeg i mewn i ysgolion,” meddai.

Roedd yn credu bod angen i S4C a BBC Cymru “ddod rownd y bwrdd i edrych ar strategaeth i gerddoriaeth Gymreig a Chymraeg”.

“Mae’n rhaid i ni fel diwydiant cerddoriaeth a chyfryngau newid y diwydiant drwy lunio strategaeth,” meddai cyn cyfeirio at “ddiffyg atebolrwydd y diwydiant cyfryngau a cherddoriaeth,” i’r naill a’r llall.

“Ac mae angen i grwpiau newydd cyffrous fynd allan i greu dilyniant – does diawch o neb am wneud hynny iddyn nhw ond y perfformwyr eu hunain”.

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 21 Gorffennaf