Hywel Wyn Edwards

Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod, sy’n blogio o faes hynod o braf…

A dyma ni ar y Maes gyda chwta wythnos i fynd cyn y bydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro yn cychwyn, ac rwy’n gwybod mod i wedi sôn y byddwn i’n blogio mwy, ond mae’r dyddiau’n hedfan heibio yr adeg yma o’r flwyddyn.

Erbyn hyn dwi bron â bod wedi symud i’r Maes – bron â bod meddwn i gan fod y swyddfa yn y broses o symud.  Ond o leiaf, mae ‘na gadair, desg a gliniadur yma, felly mae modd dal i fyny gyda negeseuon a chael eiliad i ysgrifennu hwn!

Mae’n faes hynod o braf.  Roeddem ni i fyny yn y Ganolfan Groeso ddoe yn rhoi trefn ar bethau, ac yn edrych i lawr ar Gylch yr Orsedd, y Maes a’r Pafiliwn.  Er ei bod wedi glawio tipyn dros y dyddiau diwethaf, mae’r Maes mewn cyflwr ardderchog a gobeithio’n arw y bydd hyn yn parhau dros y dyddiau nesaf.

Peth od yw Maes yr Eisteddfod heb Eisteddfodwyr.  Cae ydi o heb y bobl – a’r bwrlwm a’r cynnwrf sy’n ei droi’n Faes.  A gobeithio y bydd pobl yn tyrru yma i Wrecsam gan fod gwledd yn eu haros.

Yn ystod yn cyfnod cyn yr Eisteddfod mae pawb yn gofyn i mi ‘Beth sy gennych chi’n newydd eleni?’  Mewn gwirionedd, mae popeth ar y Maes yn newydd – a dyna yw un o’r pethau gorau amyr Eisteddfod.  Unwaith mae’r wythnos ar ben, dyna ni, rydan ni’n symud ymlaen at y Brifwyl nesaf, gan sicrhau bod yr arlwy’n wahanol ac yn gweddu i’r ardal a dyheadau’r pwyllgorau lleol.  Mae’n bwysig cael blas lleol mewn Eisteddfod,  dyna pam fod Eisteddfod Wrecsam yn mynd i fod yn wahanol iawn i Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd y llynedd, a pham fod honno’n wahanol i Eisteddfod Meirion a’r Cyffiniau ddwy flynedd yn ôl.

Ond mae ‘na rywbeth gwirioneddol newydd eleni, a rydw i’n bersonol yn falch iawn o weld y datblygiad yma – Cefnlen.  Cyfres o weithdai ymarferol ar gyfer unrhyw un sy’n hoff o ysgrifennu yn y Gymraeg yw’r rhain, wedi’u trefnu ar y cyd gennym ni fel Eisteddfod, Barddas a Tŷ Newydd, sy’n rhan o Llenyddiaeth Cymru.  Mae ‘na gymysgedd o ryddiaith a barddoniaeth a rydw i’n gobeithio y byddan nhw’n boblogaidd iawn.  A wyddoch chi lle mae Cefnlen?  Yn nghefn y Babell Lên wrth gwrs!

Mae ‘na newidiadau wedi bod yn y Theatr hefyd.  Rydan ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda Theatr Genedlaethol Cymru, ac mae gennym ni adeilad pwrpasol ar gyfer y Theatr a chaffi dros ffordd i’r adeilad erbyn hyn.  Caffi’r Theatrau yw ei enw a dyma’r lle i ddod am wybodaeth am y cynyrchiadau diweddaraf ac i brynu tocynnau ayb.

Ac mae ‘na newidiadau i’r arlwy yn y Theatr hefyd.  Mae ‘na slot newydd eleni – y slot 17.30 – dramau diwedd y p’nawn.  Cyfle i fwynhau drama fer cyn ei throi hi am adref.  Gobeithio y bydd y rhain yn cydio, a  rydan ni hefyd wedi creu slot newydd ar gyfer yr ŵyl ddrama a oedd yn arfer bod gyda’r nos – Gŵyl Ddrama Awr Ginio yw hi rwan – ac mae hyn eisoes wedi cael croeso brwd gan nifer o bobl.  Mae ‘na ragor o wybodaeth am y newidiadau yma yn ein cylchlythyr drama ar ein gwefan – ac yn y Rhaglen Swyddogol wrth gwrs.

Mi fydd gweddill y tîm yn dechrau cyrraedd o yfory ymlaen, felly bydd y lle’n prysuro.  Mae criw y Maes yn tynnu tua therfyn eu gwaith nhw a’r gwaith o addurno a pharatoi popeth ar gyfer yr ymwelwyr yn cychwyn.  Mae nifer o bethau eisoes wedi cyrraedd a’n gobaith yw y bydd y Maes eleni’n fwy lliwgar na’r gorffennol.

Beth bynnag, mi ddo i’n ôl at hyn ymhen ychydig ddyddiau pan ga i funud i ddal i fyny gyda chi!