Mae cyngor Caerdydd wedi galw ar ysgolion a grwpiau cymunedol i wario £1,600 ar offer er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gallu clirio eira a rhew yn ystod y gaeaf.

Dywedodd y cyngor y byddai’r offer yn rhoi cyfle i ysgolion a chymunedau helpu eu hunain mewn tywydd gwael os nad oedd gan y cyngor yr adnoddau i’w cynorthwyo.

Bu’n rhaid cau cannoedd o ysgolion ar draws y brifddinas dros y gaeaf ac erbyn dechrau mis Ionawr eleni dim ond rhaid priffyrdd oedd yn cael eu graeanu.

Awgrymodd adolygiad annibynnol gomisiynwyd gan y cyngor yn sgil y trafferthion eu bod nhw’n darparu offer eira i ysgolion a grwpiau cymunedol.

Dywedodd cyngor y ddinas fod gan ysgolion a grwpiau cymunedol nes dydd Gwener i wneud cais am yr offer, fel bod yr archebion yn eu lle cyn gwyliau’r haf.

Gaeaf oer

Daw’r cynnig , gan gynnwys dau fin graeanu a pheiriant i’w ledaenu, ar ôl tri gaeaf oerach na’r disgwyl yn olynol.

Disgynnodd eira ddiwedd mis Tachwedd a thrwy gydol mis Rhagfyr y llynedd, ac roedd y tymheredd 4-5 gradd Celsius yn is na’r tymheredd arferol yr adeg hon o’r flwyddyn ar gyfartaledd.

Rhagfyr oedd yr oeraf ers dechrau’r cofnodion 100 mlynedd yn ôl, a’r mis unigol oeraf ers Chwefror 1986, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Cafodd ymateb sawl cyngor ar draws Cymru, gan gynnwys Caerdydd, ei feirniadu.