Daeth i’r amlwg heddiw fod atal prif weithredwr cyngor Conwy o’i swydd wrth iddo wynebu cyhuddiad o dreisio wedi costio bron i £350,000 i’r awdurdod.

Cafwyd Byron Davies, 53, yn ddieuog o dreisio merch 26 oed oedd hefyd yn gweithio i’r cyngor ym mis Ionawr.

Cafodd ei atal o’i swydd am 14 mis, tair wythnos ag un diwrnod o fis Mawrth 2010 ymlaen ar ôl cael ei gyhuddo o’r drosedd.

Nid yw’r ffigwr terfynol, sef £349,123, yn cynnwys y taliad i Byron Davies pan ymddiswyddodd ar 17 Mehefin 2011, sydd heb ei ddatgelu.

Yn ôl adroddiad gan yr archwiliwr KPMG i’r modd yr aeth y cyngor i’r afael â’r mater roedd y setliad ariannol dalwyd i Byron Davies yn “rhesymol”.

Roedden nhw’n amcangyfrif fod cost y setliad ariannol yn is na chost debygol parhau â’r camau i ddisgyblu Byron Davies.

Costau

Mae’r ffigwr terfynol, gafodd ei ryddhau dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, yn cynnwys cyflog Byron Davies tra’r oedd wedi ei atal o’i swydd, sef £114,435 y flwyddyn.

Mae hefyd yn cynnwys costau cyfreithiol, sef £71,889, a chostau trefnu a chyflogi gweithwyr i gyflawni cyfrifoldebau’r Prif Weithredwr ar ei ran, sef £71,000.

Talodd y cyngor £63,000 am ymchwilwyr diduedd i ymchwilio i’r mater.

Derbyniodd Cyngor Conwy £50,000 gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn talu rhywfaint o’r costau.