Lynette White
Roedd plismyn fel petaen nhw’n sgrifennu stori ar gyfer ffilm wrth ddyfeisio tystiolaeth i garcharu tri dyn ar gam yn achos Lynette White.

Dyna honiad un o’r tystion allweddol yn yr achos wrth ddisgrifio sut yr oedd hithau wedi dod dan bwysau i ddweud celwydd.

Roedd Angela Psaila’n rhoi tystiolaeth yn erbyn wyth cyn blismangyda Heddlu De Cymru sy’n cael eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn achos llofruddiaeth y ferch o ddociau Caerdydd.

Mae un o’r plismyn a dau berson cyffredin hefyd yn cael eu cyhuddo o dyngu anudon  neu ddweud celwydd ar lw.

‘Fel anifail’

Roedd Angela Psaila wedi cael ei charcharu ei hun am ddweud celwydd mewn llys ar ôl i dri dyn gael eu carcharu ar gam am y llofruddiaeth a ddigwyddodd yn 1988.

Fe ddisgrifiodd fel yr oedd plismyn wedi ymddwyn yn ymosodol tuag ati a’i thrin “fel anifail” ac wedi gwrthod derbyn ei thystiolaeth nad oedd hi yn yr ystafell gyda Lynette White pan gafodd ei lladd.

Yn 1992, fe enillodd y tri dyn – ‘Tri Caerdydd’ – eu hachos apêl a chael eu rhyddhau ond dim ond yn awr y mae rhai o’r plismyn yn yr achos yn cael eu rhoi ar brawf.

Mae’r deg diffynnydd yn gwadu’r honiadau.

Dyma’r diffynnyddion

Dyma’r wyth plismon sydd wedi eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder: Y cyn uwcharolygydd Richard Powell, y cyn brif arolygwyr Thomas Page a Graham Mouncher, a Michael Daniels, Paul Jennings, Paul Stephen, Peter Greenwood a John Seaford.

Mae Graham Mouncher a dau berson arall, Violet Perriam ac Ian Massey’n cael eu cyhuddo o ddau gownt o dyngu anudon.