Chris Bryant
Mae Palas Buckingham wedi condemnio AS o Gymru am honiadau tros y sgandal hacio ffonau.

Mae swyddogion yno wedi gwadu haeriad Chris Bryant, AS Llafur y Rhondda, bod cynrychiolwyr y Frenhines wedi ceisio rhwystro’r Prif Weinidog rhag cyflogi cyn olygydd y News of the World, Andy Coulson.

Roedd yr honiad yn “gywilyddus”, meddai’r Palas, gan wadu’n llwyr bod swyddogion wedi codi pryderon gyda rhif 10 Downing Street.

Roedd Chris Bryant wedi gwneud yr honiadau mewn cyfweliad gyda’r BBC ac fe gawson nhw’u gwadu’n llwyr hefyd gan lefarwyr y Prif Weinidog.

“Rybish llwyr,” oedd ymateb llefarydd.

Honiad Chris Bryant

Roedd Chris Bryant wedi honni bod pobol uchel ym Mhalas Buckingham yn bryderus am benodiad Andy Coulson ac “wedi ceisio gwneud hynny’n hollol glir” i’r Prif Weinidog.

Doedd e ddim yn siŵr a oedd y rhybudd wedi cyrraedd David Cameron ei hun, ond roedd wedi cyrraedd ei uchel swyddogion.

Mae David Cameron wedi cydnabod mai camgymeriad oedd penodi Andy Coulson a oedd yn olygydd papur y News of the World yn anterth y sgandal hacio ffonau symudol.

Yn ystod y ddadl, fe ddywedodd Chris Bryant, un o’r amlyca’ yn yr ymgais i ddwyn News International i gyfri’, mai’r cwmni a ddylai dalu am gostau’r ymchwiliadau i’w ymddygiad.