Ieuan Wyn Jones
Fe fydd arweinydd newydd gan Plaid Cymru erbyn mis Mawrth 2012, meddai Ieuan Wyn Jones.

Dywedodd arweinydd presennol y blaid ei fod yn gobeithio y byddai cyfnod enwebu olynwyr posib yn yn dechrau ym mis Ionawr 2012, a’r gystadleuaeth yn para tua 10 wythnos.

Mae llawer o ddisgwyl wedi bod am y cyhoeddiad, ers I Ieuan Wyn Jones ddweud ym mis Mai eleni ei fod am roi’r gorau iddi yn dilyn canlyniad siomedig i Blaid Cymru yn Etholiad y Cynulliad.

Adolygiad

Ers yr etholiad, mae Plaid Cymru wedi bod yn cynnal adolygiad o’r blaid, gydag Eurfyl ap Gwilym wrth y llyw. Bydd y gystadleuaeth am arweinyddiaeth y blaid yn dechrau wedi i’r adolygiad ddod i ben.

“Mae’r adolygiad llawn bellach ar waith,” meddai Ieuan Wyn Jones, “a bydd wedi ei gwblhau erbyn dechrau’r flwyddyn newydd.

“Rwy’n fodlon y bydd amserlen yr adolygiad yn caniatáu cystadleuaeth gynnar am yr arweinyddiaeth yn 2012.”

Bydd Ieuan Wyn Jones, sydd wedi bod yn arweinydd ar Blaid Cymru ers 2001, yn aros yn y swydd nes bod yr arweinydd nesaf wedi ei ddewis.