Cymdeithas yr Iaith yn protestio am Ysgol y Parc
Mae’r ffrae tros ddyfodol Ysgol y Parc wedi dechrau eto wrth i’r ansicrwydd gynyddu am ddyfodol rhaglen i adnewyddu ysgolion Cymru.

Mae Cyngor Gwynedd yn cael eu cyhuddo o geisio cau’r ysgol “doed a ddêl” ac o dorri dealltwriaeth gyda phobol leol.

Mae cynghorydd lleol yn galw arnyn nhw i ymgynghori eto ynglŷn â dyfodol yr ysgol ac mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo’r Cyngor o fod ag “obsesiwn” tros gau ysgolion bach.

Ond mae arweinydd portffolio addysg y Cyngor yn mynnu bod rhaid gweithredu i aildrefnu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig er mwyn eu diogelu yn y tymor hir.

Cynnig newydd

Ddydd Mawrth, fe fydd Bwrdd Cyngor Gwynedd yn ystyried argymhelliad i fwrw ymlaen gyda chau Ysgol y Parc a gwario ar wella ysgol gyfagos Llanuwchllyn.

Fe fydden nhw hefyd o blaid gwneud newidiadau i ysgolion bach gwledig eraill yn yr ardal ond yn gorfod edrych eto ar gynllun i gau tair ysgol a chreu ysgol gydol oes newydd yn nhref Y Bala.

Yn wreiddiol, roedd y cyfan yn rhan o un pecyn i aildrefnu addysg yn yr ardal ond mae oedi gan y Llywodraeth ac ansicrwydd pellach am gefnogaeth ariannol wedi codi amheuon mawr am hynny.

Cynghorydd yn beirniadu

Yn ôl cynghorydd lleol Y Bala, Dylan Edwards, dyw hi ddim yn iawn bod y Cyngor yn cau Ysgol y Parc heb i hynny fod yn rhan o’r pecyn cyfan.

“Fe werthon nhw’r pecyn yna i bobol yr ardal mewn sawl cyfarfod cyhoeddus a chyfarfod ymgynghori,” meddai. “Os na fyddai ysgol gydol oes yn cael ei sefydlu yn Y Bala, mi ddywedson nhw na fyddai dim byd arall yn digwydd.”

Roedd hefyd yn mynnu y byddai’r Cyngor yn gorfod gwario tua £1 miliwn i wella Ysgol O.M. Edwards Llanuwchllyn, ond heb fod yn arbed mwy na rhyw £30,000 y flwyddyn trwy gau’r Parc.

“Mewn amser o doriadau gwario, dydi hynny ddim yn gwneud synnwyr,” meddai. “A does dim sicrwydd y bydd plant y Parc yn mynd i Lanuwchllyn beth bynnag.”

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, roedd hi’n “warthus fod ymdrech i wthio hyn trwy Fwrdd y Cyngor yn union cyn gwyliau’r haf, yn hytrach na chyfeirio’r mater yn ôl am benderfyniad democrataidd yn y Cyngor llawn a allai ystyried yr amgylchiadau newydd”.

Ateb y Cyngor

Does gan y Cyngor ddim dewis os ydyn nhw am warchod gwasanaethau addysg gwledig ar gyfer y dyfodol, meddai arweinydd portffolio addysg Gwynedd, y Cynghorydd Liz Saville Roberts.

Oherwydd oedi’r Llywodraeth, roedden nhw o blaid symud ymlaen gyda rhai o’r newidiadau gan wario arian a oedd wedi ei glustnodi eisoes gan y Cyngor. Roedd hi’n apelio ar Dylan Edwards i roi’r gorau i chwarae gwleidyddiaeth boblogaidd a chymryd y cyfrifoldeb “o lywodraethu’n gyfrifol”.

“Ein bwriad ni ydi creu rhwydwaith o ysgolion gwledig o amgylch y Berwyn a’u gwella efo;’r bwriad eu bod nhw’n aros yn gadarn am hanner can mlynedd.

“Mae penaethiaid ysgolion Gwynedd wedi penderfynu nad yw ysgolion gyda llai nag 20 o blant yn gynaliadwy. Dim ond 19 o blant sydd yn Ysgol y Parc.

“Mae yna argyfwng yn wynebu gwasanaethau cyhoeddus yng nghefn gwlad. Mae gynnon ni’r dewis o weithredu i’w ail gynllunio nhw neu eu gweld nhw’n diflannu.”

Colli arian – y cefndir

Oedi ac ansicrwydd tros arian gan y Llywodraeth sydd wedi gwthio’r Cyngor i weithredu.

Eisoes, roedden nhw wedi aros yn hwy na’r disgwyl i gael gwybod a fyddai’r Llywodraeth yn cefnogi’r cynllun yn Y Bala ac yn rhoi 75% o’r arian tuag ato.

Roedd hynny’n peryglu’r bwriad i weithio ar Ysgol O.M. Edwards Llanuwchllyn yn ystod y flwyddyn nesa’ a chau Ysgol y Parc yn haf 2012.

Ers hynny, yn ystod y dyddiau diwetha’, mae’r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi y bydd llai o arian – 50% – ar gael ar gyfe cynlluniau Ysgolion yr 21ain ganrif ac fe fydd rhaid i gynghorau wneud ceisiadau o’r newydd.

Os bydd y Bwrdd yn derbyn yr argymhellion ddydd Mawrth, fe fydd y rheiny’n cynnwys ymrwymiad i geisio bwrw ymlaen gyda’r cynllun yn Y Bala hefyd, er y bydd angen ail ystyried y manylion.