Sophie Clark (Gwifren PA)
Mae teulu merch 12 oed wedi cael miliynau o iawndal er mwyn talu am ofal iddi ar hyd ei hoes.

Mae Sophie Clark o Bontyclun ger Pen-y-bont yn dioddef o barlys yr ymennydd, yn methu â symud ac yn gorfod cael ei bwydo trwy bibell.

Mewn gwrandawiad yng Nghaerdydd, fe gytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe a Bro Morgannwg i dalu’r iawndal ar ôl cydnabod bod camgymeriadau wedi eu gwneud adeg ei geni.

Trafferthion

Roedd yna arwyddion bod trafferthion gyda chalon Sophie ond wnaeth staff ddim prysuro’i genedigaeth – yn ôl cyfreithwyr ar ran y teulu roedd diffyg ocsigen bryd hynny wedi achosi’r parlys.

Mae’r iawndal yn gyfystyr â £5 miliwn ar hyd oes y ferch ac fe ddywedodd ei theulu fod y dyfarniad yn “rhyddhad mawr” – fe fydd yn golygu gallu talu am ofal iddi ar hyd ei hoes.

Roedd y Bwrdd yn cydnabod eu bod wedi gwneud camgymeriadau ond yn dadlau bod y difrod i ymennydd Sophie eisoes wedi digwydd.