Mae’n bosib nad oedd mam-gu wedi gweld clogwyn 150 troedfedd cyn camu oddi arno, clywodd cwest heddiw.

Dioddefodd Barbara Mageean, 73, sawl anaf yn ystod y ddamwain ac fe fu farw yn yr ysbyty ar ôl cael ei chludo yno gan griw’r Llu Awyr Brenhinol oedd yn cynnwys y Tywysog William.

Roedd Barbara Mageean, o Gaer, yn dioddef o orddryswch a chlefyd Parkinson.

Roedd ar wyliau ar Ynys Môn gyda’i gŵr Owen, 74, a’u teulu pan ddigwyddodd y trychineb ar 21 Chwefror eleni.

Wrth roi tystiolaeth yn ei chwest yng Nghaernarfon heddiw, dywedodd Owen Mageean eu bod nhw’n mynd a’u ci am dro ar hyd llwybr arfordirol yn Llanbadrig pan ddisgynnodd ei wraig.

“Roedd y teulu wedi mynd am bicnic ac wedi ein tecstio ni er mwyn dweud eu bod nhw ar eu ffordd yn ôl i’r bwthyn ac fe awgrymodd hi ein bod ni’n mynd i gwrdd â nhw,” meddai.

Dywedodd fod y ddau yn cerdded llaw yn llaw ar hyd y llwybr pan symudodd eu ci Lucy i ymyl y clogwyn.

Gollyngodd ei wraig law ei gŵr a “chamu drosodd”, clywodd y llys.

“O, Lucy, meddai hi, a mynd i nôl y ci,” meddai Owen Mageean. “Wnaeth hi ddim baglu, dim ond camu dros yr ymyl.

“Roedd rhaid i fi fynd i lawr ati, doeddwn i ddim yn gwybod beth arall i’w wneud.”