Dale Lent
Mae’r heddlu wedi galw am gymorth er mwyn dod o hyd i ddyn “peryglus” sy’n cael ei amau o gyflawni ymosodiad difrifol.

Mae’r heddlu yn chwilio am Dale Lent ar ôl ymosodiad dorrodd gwddf dyn 19 oed ag anafu ei wyneb.

Mae Dale Lent, 28, o’r Rhondda wedi diflannu ers dydd Sadwrn, 25 Mehefin. Dywedodd yr heddlu fod ganddo dymer peryglus.

Y gred yw ei fod ar faglau ar ôl anafu ei bigwrn.

Dywedodd yr heddlu fod ganddo hefyd gysylltiadau yn ardal Abertawe yn ogystal â’r Rhondda.

“Rydyn ni eisiau siarad â Lent ar amheuaeth o ymosodiad sydd wedi anafu dyn 19 oed yn ddifrifol,” meddai’r Ditectif Arolygydd, Lee Porter.

“Mae anafiadau’r dyn yn frawychus. Does gen i ddim amheuaeth fod y dyn yma yn beryglus ac rydw i’n pryderu am beth fydd yn fodlon ei wneud er mwyn osgoi cael ei ddal.

“Rydyn ni’n credu ei fod ar faglau ac felly yn fwy dibynnol ar eraill. Felly mae angen i deulu a ffrindiau wneud eu rhan i sicrhau ei fod yn cael ei ddal.

“Mae helpu rhywun er mwyn osgoi cael ei ddal yn drosedd difrifol a rhaid i bobol ddeall ei fod yn cael ei amau o drosedd difrifol iawn.

“Dylai unrhyw un sydd wedi ei weld, neu yn gwybod lle mae o, gysylltu gyda ni yn syth yn hytrach na mynd ato.”

Dylai unrhyw un sy’n gwybod lle mae Dale Lent ffonio Heddlu Pontypridd ar 01656 655555 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.