Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio wedi iddynt ddod o hyd i ddyn wedi marw ar ochor y ffordd.

Daethpwyd o hyd i’r dyn yn farw wrth ochr Ffordd Penmaen rhwng Oakdale a Pontllanfraith yn oriau man y bore ddydd Sul.

Mae’r heddlu wedi galw am wybodaeth gan  unrhyw un oedd yn cerdded neu’n gyrru ar hyd y ffordd rhwng 2am a 4am y bore ac a welodd rhywbeth allai fod o gymorth i’r ymchwiliad.

Mae swyddogion heddlu mewn cysylltiad â theulu’r dyn 27 blwydd oed o ardal Bryste ac yn cynnig cefnogaeth iddyn nhw.

Maen nhw hefyd yn edrych ar ddelweddau  teledu cylch cyfyng ac yn cynnal ymchwiliadau o dŷ i dŷ er mwyn ceisio deall beth oedd yn gyfrifol am ei farwolaeth.

Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu gyda’r Heddlu ar 101.