Buchesi llaeth sy'n cael eu heffeithio
Wrth i’r Llywodraeth gyhoeddi enw Cadeirydd y panel i ystyried diciâu mewn gwartheg, mae Plaid Cymru’n lansio deiseb yn galw arnyn nhw i weithredu ar unwaith.
Yr Athro Christopher Gaskell, Prifathro’r Coleg Amaethyddol Brenhinol yn Cirencester, fydd yn arwain y gwaith o ystyried y dystiolaeth wyddonol am achosion y TB.
Fe fydd ef a’i banel – sydd heb eu henwi eto – yn adrodd wrth Brif Gynghorydd Gwyddonol y Llywodraeth erbyn yr hydref eleni.
Ond, yn ôl Plaid Cymru, fe ddylai’r Llywodraeth fynd ati ar unwaith i weithredu cynllun difa moch daear a mesurau eraill.
Lansio deiseb
Mae eu llefarydd Materion Gwledig yn lansio deiseb ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd, yn dweud bod angen gweithredu’r math o gynllun oedd gan y Llywodraeth Glymblaid cyn etholiad mis Mai.
Fe gafodd hwnnw ei atal pan ddaeth Llafur yn ôl i rym ar eu pen eu hunain ac, ers hynny, mae ffermwyr – gan gynnwys y ddau undeb – wedi beirniadu’r oedi.
“Wythnosau wedi i’r Llywodraeth gyhoeddi y bydd yn edrych unwaith eto ar ei Rhaglen Ddileu’r Diciâu mewn Gwartheg, rydym yn dal i aros am aelodaeth a chylch gorchwyl yr adolygiad,” meddai Llŷr Huws Gruffydd ar ran Plaid Cymru.
‘Mwy o fuchesi’n dioddef’
Yn ôl yr AC o Ogledd Cymru, mae mwy a mwy o fuchesi Cymru yn dioddef o effeithiau’r diciâu tra bod y Llywodraeth yn dal i oedi dros y broses o wneud adolygiad.
“Fe ddangosodd y llywodraeth Lafur ddiffyg asgwrn cefn rhyfeddol trwy oedi ar y mater hwn,” meddai.
“Ddaeth dim tystiolaeth newydd i’r amlwg ac felly wela’ i ddim rheswm gwirioneddol pam bod Carwyn Jones a’i gabinet wedi newid eu meddyliau.”
Yn ôl y Prif Weinidog, roedd angen bod yn gwbl sicr ynglŷn â’r dystiolaeth ac roedd hi’n annhebygol y bydden nhw wedi gallu gweithredu cynllun difa eleni beth bynnag.
Roedd y dystiolaeth yn newid yn gyson, meddai Carwyn Jones wrth Radio Wales.
Y ddeiseb
Yn ôl Plaid Cymru, mae’r ddeiseb yn rhan o’u cynllun ehangach i sicrhau bod TB mewn gwartheg yn cael ei gadw dan sylw.
“Mae cynnwys y ddeiseb yn cynrychioli’r galw ar draws y sector,” meddai llefarydd ar ran y blaid wrth Golwg 360, “ac mae’n bwysig ein bod ni’n rhoi’r pwyslais yn ôl ar y pwnc ei hun.”