Western Mail
Mae newyddiadurwyr yn galw am gyfarfod brys gyda rheolwyr cwmni Media Wales yn ne Cymru ar ôl cyhoeddiad bod 22 o swyddi newyddion yn mynd.

Maen nhw hefyd wedi rhoi caniatâd i’w cynrychiolwyr ystyried gweithredu diwydiannol o fewn y cwmni sy’n cynnwys papurau’r Western Mail, y Wales on Sunday, y South Wales Echo a chyfres o bapurau lleol.

Ddydd Gwener y daeth y cyhoeddiad am y swyddi, sy’n cynnwys wyth swydd newyddion, deg o’r swyddfeydd lleol a phedair o’r adran chwaraeon.

Un gwasanaeth

Nod y cwmni yw cael un gwasanaeth newyddion ar gyfer eu holl bapurau – yn ôl y cwmni, fe fyddai hynny’n gwarchod dyfodol y teitlau.

Fe ddywedodd undeb yr NUJ eu bod yn benderfynol o arbed y swyddi ar ôl cyfres o doriadau o fewn y cwmni, sy’n cynnwys colli swyddi tri golygydd lleol a chau swyddfeydd yn Aberdar, Glyn Ebwy a Chastell Nedd.

Cwmni Trinity Mirror yw perchnogion y grŵp yn y pen draw.