M
Adeilad y Cynulliad
ae Cymru’n cael ei chosbi’n ariannol oherwydd datganoli, meddai’r dyn sydd wedi argymell newid sylfaenol yn y drefn.

Mae’n rhybuddio bod peryg na fydd Cymru’n gallu cynnal gwasanaethau cyhoeddus ar yr un lefel â gweddill gwledydd Prydain.

Wrth i gyfanswm gwario yn Lloegr godi, mae siâr Cymru’n mynd yn llai, meddai Gerry Holtham, Cadeirydd y Comisiwn a sefydlodd Llywodraeth Cymru i astudio’r pwnc.

Dim colli pellach

Mae bellach yn argymell system i wneud yn siŵr nad yw Cymru’n colli ymhellach, gan ddefnyddio rhai o enillion yr Alban a Gogledd Iwerddon i wneud iawn.

Dyma’r amser i weithredu, meddai mewn erthygl i’r wefan Devolution Matters, a hynny cyn i wario cyhoeddus ddechrau cynyddu eto a gwneud y sefyllfa’n waeth.

Mae’n dweud y byddai ei ateb ef yn sicrhau na allai Cymru ddisgyn ymhellach ar ei hôl hi, a hynny heb gostio dimai’n ychwanegol i’r Trysorlys.

Dyma’r esboniad:

  • Doedd neb yn disgwyl y byddai Fformiwla Barnett, sy’n rhannu arian o Lundain i’r gwahanol wledydd, yn para’n hir. Mae bellach tros 30 oed.
  • Ar y dechrau, roedd fwy neu lai’n cydnabod yr angen yn y gwahanol wledydd ac roedd Cymru’n cael 15% yn fwy yn ôl pen y boblogaeth na Lloegr.
  • Bellach, tra bod yr arian i ranbarthau Lloegr yn dal i ddibynnu ar angen mewn gwahanol feysydd, mae datganoli’n golygu mai un grant mawr y mae Cymru’n ei gael ac mae’r cysylltiad gydag angen wedi’i dorri.
  • Bellach, meddai Gerry Holtham, mae Cymru’n cael llai nag y byddai pe bai hi’n un o ranbarthau Lloegr ac, os bydd gwario cyhoeddus yn codi eto, fe fydd yr annhegwch yn tyfu hefyd.
  • Gan fod y ddwy wlad ddatganoledig arall yn cael mwy na’r ‘lefel angen’, mae’n awgrymu tynnu ychydig arian oddi arnyn nhw i gadw Cymru ar ei lefel presennol.

Yr ateb

“Mae modd dyfeisio rhwyd ar sail angen ar gyfer  y tair gwlad ddatganoledig, heb ragor o arian gan y Trysorlys,” meddai Gerry Holtham, wrth gydnabod mai ateb tros dro yw hwn.

“Mae’n cyfyngu ar yr annhegwch eithafol a drwg ble mae un wlad, mewn gwirionedd, yn cael ei chosbi am fod wedi datganoli ac yn methu â chynnal gwasanaethau cyhoeddus ar yr un lefel â gweddill  y Deyrnas Unedig.”