Prifysgol Caerdydd
Fe fydd dyn 85 oed yn derbyn ei radd brifysgol heddiw – 66 o flynyddoedd yn hwyr.

Fe sylweddolodd Prifysgol Caerdydd nad oedd Harold Jones wedi cael ei dystysgrif yn ôl yn 1945 ac mae wedi cael gwahoddiad i’r seremoni raddio heddiw.

Fe fydd rhaid i’r cyn fyfyriwr peirianneg deithio o’i gartre’ ym Madrid i dderbyn y dystysgrif ac fe fydd ei wraig ac un o’i wyrion gydag ef.

“Dw i’n debyg o sefyll mas ymhlith y myfyrwyr eraill,” meddai Harold Jones, sy’n wreiddiol o Aberhonddu ond wedi gweithio mewn sawl rhan o’r byd.

Y cefndir

Roedd yn fyfyriwr yng Nghaerdydd yn ystod y rhyfela  chafodd ei alw i’r lluoedd arfog ar ddiwedd ei flwyddyn ola’.

O ganlyniad, doedd erioed wedi cael ei dystysgrif – dyw e ddim yn gwybod a oedd un wedi ei hanfon i’w hen gyfeiriad.

Ynghynt eleni y sylweddolodd staff y Brifysgol nad oedd wedi derbyn ei radd a bod cyfle i wneud iawn am hynny.