Llandysul (Marion Phillips CCA 2.0)
Mae ymgyrchwyr tros achub ysgolion pentref yng Ngheredigion yn galw ar y Cyngor Sir i ailfeddwl am eu bwriad i’w cau ar ôl newid yng nghostau’r cynllun.

Yn ôl Grŵp Amddiffyn Ysgolion Cynradd Ardal Llandysul, mae’r newid yn rhoi “cyfle euraidd” i ystyried atebion eraill yn hytrach na chau pump ysgol gynradd i greu un ysgol fawr o 3 i 19 oed.

Yr wythnos ddiwetha’, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n rhaid i gynghorau sir gyfrannu rhagor at gynlluniau i adeiladu ysgolion newydd – 50% o’r costau, yn hytrach na 30%.

Mae’r grŵp wedi ysgrifennu at Gyfarwyddwr Addysg Ceredigion yn gofyn am gyfarfod i drafod y newid – roedd y Cyngor wedi penderfynu’n derfynol i gefnogi’r cynllun.

‘Baich enfawr’

“Byddai bwrw ymlaen â’r un cynllun eto gyda dim ond 50% o gyfraniad oddi wrth Lywodraeth Cymru’n faich enfawr ar drethdalwyr Ceredigion ac yn ychwanegu at y gwrthwynebiad mawr sydd wedi bod i’r cynllun yma,” meddai un o’r arweinwyr, Gethin Jones.

Y cynllun oedd yr unig un yng Ngheredigion i gael ei ystyried yn y tymor byr ar gyfer cefnogaeth arbennig gan y Llywodraeth ond fe gyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, bod rhaid i hynny ddod i ben oherwydd toriadau gwario.

Fe fyddai’r cynllun wedi golygu creu ysgol newydd Gymraeg 3-19 yn Llandysul, ond gan gau ysgol gynradd y pentref a phedair ym mhentrefi cyfagos Aberbanc, Capel Cynon, Pontsian a Choedybryn.