Defaid yn y Sioe y llynedd
Fe fydd llygaid y byd amaethyddol – a busnes – ar Lanelwedd heddiw, i weld a fydd y dirwasgiad economaidd wedi effeithio ar y Sioe Fawr.

Eisoes, mae rhai cyrff cyhoeddus wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n cymryd stondinau ar y maes eleni oherwydd y costau.

Mae disgwyl y bydd tua 200,000 o bobol yn mynd i’r sioe bedwar diwrnod ac mae prisiau cynnyrch ffermio’n uwch nag ers blynyddoedd, yn arbennig mewn meysydd allweddol fel cig oen a gwlân.

Gwella’r Prif Gylch

Fe fydd y Sioe mewn gwell sefyllfa i ddelio â’r tywydd hefyd ar ôl gwario’n drwm i wella’r system ddraenio yn y Prif Gylch.

Y llynedd, a fwy nag unwaith yn y blynyddoedd diwetha’, roedd glaw wedi arwain at ddifrod mawr a gorfod gohirio rhai gweithgareddau wrth i ddaear y Prif Gylch dorri.

Mae’r Sioe bellach wedi gwario tua £200,000 ar wella’r system.