Hofrennydd achub
Roedd gan orsaf gwylwyr y glannau yn Abertawe ran allweddol wrth i dri o oedolion a phump o blant gael eu hachub rhag y môr yng Ngwlad yr Haf.

Roedd yr wyth wedi eu dal gan y llanw ar draeth Brean Down ger Burnham on Sea ac wedi gorfod dringo clogwyn i ddiogelwch.

Fe gafodd hofrennydd o orsaf yr RAF yn Chivenor ei alw gan wylwyr y glannau yn Abertawe a mynd yno i’w hachub.

Cau

Ddiwedd yr wythnos ddiwetha’, fe gyhoeddodd y Llywodraeth yn Llundain y byddai’r orsaf yn Abertawe yn cau.

Fe ddywedodd rheolwr y watsh yno bod angen i bobol fod yn ofalus wrth gerdded ar lan y môr.

“Os ydych yn mynd am dro hyd y glannau, paratowch trwy wneud yn siŵr o amseroedd y llanw a gwisgwch esgidiau a dillad addas,” meddai David Hughes.