O'r Borth am Ynyslas - un o ffotograffau Mary Shayler
Mae arddangosfa newydd o luniau yn dangos harddwch traeth y Borth yng Ngheredigion, cyn i weithfeydd mawr ddechrau yno yn ddiweddar.

Bydd y ffotograffau gan Mary Shayler i’w gweld yn Oriel Adrift yn y pentref o ddydd Sadwrn nesaf (Gorffennaf 23) tan Awst 13.

Mae’r ffotograffau yn ceisio dangos naws ddiamser y dirwedd, sydd ar fin newid am byth oherwydd gwaith yno i gryfhau’r amddiffynfeydd.

Mae’r casgliad o luniau yn dangos y berthynas rhwng y môr, y cerrig a’r llanw, yn ogystal â’r ffordd y mae’r golau’n chwarae, rhwng machlud a gwawr.

“Dw i’n caru arfordir Ceredigion, ac mae gen i lawer o atgofion hapus o dreulio fy mhlentyndod yno,” meddai Mary Shayler.

“Pan o’n i’n tynnu’r lluniau hyn, doeddwn i ddim yn deall fy mod i’n dal cofnod hanesyddol o’r traeth a’i harddwch naturiol,” meddai wedyn. “Bellach, mae’r amddiffynfeydd newydd wedi newid y lle am byth.