Melanie Walters yng ngwersyll cariad@iaith
Yr actores Melanie Walters yw enillydd teitl cariad@iaith:love4language 2011 S4C, a hynny ar ôl curo saith dysgwr brwd adnabyddus arall.

Yn y rhaglen olaf yn sioe realiti S4C cariad@iaith:love4language, a gafodd ei darlledu’n fyw o wersyll fforest yng Nghilgerran nos Wener, 15 Gorffennaf, yr actores o Abertawe ddaeth i’r brig.

Melanie, a chwaraeodd gymeriad Gwen yn y gyfres ddrama boblogaidd Gavin and Stacey a derbyniodd y nifer fwyaf o bleidleisiau gan ei chyd ddysgwyr enwog a thiwtoriaid y cwrs am wneud yr ymdrech fwyaf yn ystod wythnos ddwys o sialensiau dysgu Cymraeg.

“Mae ennill yn anrhydedd fawr. Mae’r wythnos yma wedi fy ysbrydoli i – a doeddwn i ddim wedi disgwyl teimlo fel hyn am y profiad. Fe ddysgais dipyn o Gymraeg ar gyrsiau rai blynyddoedd yn ôl ac roeddwn i’n synnu cymaint oedd wedi aros yn yr isymwybod. Fe fyddwn i’n annog unrhyw un sy’n dysgu Cymraeg i ddal ati, mae’n werth yr ymdrech,” meddai Melanie.

Fe fu wyth seren adnabyddus yn cymryd rhan yn y rhaglen, gan aros am wythnos yn y gwersyll ecogyfeillgar chic yng Nghilgerran, Sir Benfro. Fe fuon nhw i gyd wedi bod yn derbyn cwrs dwys o wersi gan y tiwtoriaid Nia Parry a Ioan Talfryn, a hynny o dan lensys camerâu teledu cwmni cynhyrchu Fflic.

Y wobr oedd llwy garu brydferth o ddur wedi ei gwneud â llaw gan y gof a’r artist Toby Petersen o’r Gelli Wen, ger Meidrym, Sir Gaerfyrddin. Fe enillodd Melanie Walters hefyd le ar gwrs wythnos yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn.

Yr actores Josie d’Arby ddaeth yn ail, gan ennill penwythnos ym mhentre’ gwyliau pum seren Bluestone yn Sir Benfro.

Y chwe dysgwr arall yn fforest oedd y cyn chwaraewr rygbi Colin Charvis, yr actores Helen Lederer, y canwr Rhys o GLC, y gantores Sophie Evans, y cyflwynydd Matt Johnson a’r gwleidydd Lembit Öpik.