Rebecca Aylward (llun trwy law'r heddlu)
Mae bachgen 16 oed wedi honni bod ffrindiau’n ceisio’i feio ar gam am lofruddio’i gyn gariad.

Fe ddywedodd wrth Lys y Goron Abertawe ei fod ef a’r ferch – Rebecca Aylward, 15 oed, o Faesteg –yn rhan o jôc gymhleth ynglŷn â honiadau ei fod ef am ei lladd.

Ond mae’r erlyniad yn yr achos llofruddiaeth wedi ei gyhuddo o ddweud celwydd ynglŷn â’r stori, gan ddweud mai ef oedd wedi lladd y ferch trwy ei tharo gyda charreg fawr maint pêl rygbi.

Wrth gael ei groesholi, fe ddywedodd y bachgen mai un o’i ffrindiau oedd wedi taro Rebecca ar ôl i’r ddau ohonyn nhw dreulio amser gyda’i gilydd mewn coedwig yn Abercynffig ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Roedd y ffrind wedi gwylltio, meddai, ar ôl i Rebecca ac yntau chwarae jôc – roedd y bachgen wedi anfon neges yn dweud ei fod wedi lladd y ferch ond, pan gyrhaeddodd y ffrind, roedd hi’n fyw o hyd.

Fe awgrymodd yr erlynydd Greg Taylor QC fod y bachgen wedi dyfeisio’r stori er mwyn cuddio’r hyn yr oedd wedi’i wneud.

Mae’r achos yn parhau.