Jane Hutt
Mae undeb PCS Cymru wedi dweud wrth Golwg 360 eu bod nhw’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi awgrymu na fydd rhai o’u swyddfeydd rhanbarthol yn cau yn llwyr.

Ddoe cadarnhaodd y Gweinidog Cyllidol Jane Hutt y bydd “presenoldeb” gan Lywodraeth Cymru mewn rhai ardaloedd lle’r oedd pryder tros ddyfodol swyddfeydd ddechrau’r mis.

Dywedodd Peter Harris, Ysgrifennydd PCS Cymru, ei fod yn croesawu’r cyhoeddiad.

Daw hyn ar ôl i’r undeb gwasanaethau cyhoeddus a masnachol ddatgan ddechrau’r mis eu bod yn “pryderu” am effeithiau posibl cau swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn y Nghaerfyrddin, Drenewydd, Llandrindod a Chaernarfon ar ôl i wybodaeth ollwng.

“Rydan ni’n falch iawn eu bod nhw wedi dweud hyn,” meddai  Peter Harris. Ond roedd yn pwysleisio angen “mwy o eglurder” ar yr undeb ac nad oedd unrhyw sicrwydd hirdymor am ddyfodol y swyddfeydd.

Mae tua 98 o weithwyr yn swyddfa Caernarfon, 135 yn Llandrindod a thua 83 yn Y Drenewydd.

Mae’r undeb eisoes wedi bygwth streicio pe bai yna unrhyw ymdrech gan Lywodraeth Cymru i gau swyddfeydd.

Maen nhw’n rhy bell o’i gilydd i ddisgwyl i staff symud o un i’r llall, meddai’r undeb, ac fe fyddai gan gau’r swyddfeydd effaith andwyol ar yr economi a’r iaith Gymraeg.

‘Siom’

Dywedodd Peter Harris fod un o aelodau’r PCS wedi ei atal o’i waith dan amheuaeth o basio’r wybodaeth am gau’r swyddfeydd i’r undeb.

“Rydan ni’n siomedig fod cynrychiolydd o’r Undeb wedi’i atal o’i waith wrth ymgyrchu i gadw’r swyddfeydd hyn yn agored,” meddai Peter Harris.

Galwodd ar Lywodraeth Cymru  i “godi’r gwaharddiad ar unwaith” . Rybuddiodd y gallai’r undeb weithredu’n ddiwydiannol os nad oedd hynny’n digwydd.