Y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews
Mae fydd ysgolion uwchradd yng Nghymru yn cael eu ‘bandio’ o’r tymor nesaf ymlaen, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg heddiw.

Dywedodd Leighton Andrews nad ei nod oedd “codi cywilydd” ar unrhyw ysgol neu greu tabl cynghrair.

Y nod oedd sicrhau bod adnoddau yn cael eu targedu at yr ysgolion sydd eu hangen fwyaf, meddai.

Ni fydd yr ysgolion yn cael eu gosod mewn trefn o’r gorau i’r gwaethaf, fe fydd yr ysgolion yn cael eu ‘bandio’ mewn pedwar neu bump grŵp.

Dywedodd Leighton Andrews y bydd y system newydd yn rhoi “ffocws cliriach i ni ar ein perfformiad a’n cynnydd”.

“Bydd y system fandio genedlaethol yn gosod ysgolion uwchradd a chynradd mewn bandiau sy’n seiliedig ar eu canlyniadau a’u cynnydd, a chan gymryd i ystyriaeth yr her y maen nhw’n ei hwynebu o ran yr amgylchiadau economaidd-gymdeithasol.

“Nid hanfod bandio yw labelu ysgolion, eu henwi na chodi cywilydd arnyn nhw, na chreu tabl cynghrair cynhennus.

“Yn hytrach, diben bandio yw grwpio ysgolion yn ôl amryw o ffactorau i bennu’r blaenoriaethau ar gyfer cael cymorth gwahaniaethol a nodi’r elfennau hynny y gall y sector cyfan ddysgu oddi wrthyn nhw.

“Offer yw’r system fandio genedlaethol i’n helpu ni fod yn fwy effeithiol wrth sbarduno gwelliant ar draws y bwrdd.

“Agwedd bwysicaf bandio yw’r cymorth, yr her a’r rhannu arferion da fydd yn dilyn. Bydd datblygu fframwaith a chanllawiau statudol i gefnogi hyn yn allweddol er mwyn sicrhau gwelliannau cynaliadwy dros y tymor hir.”

Bandio

Caiff pob ysgol uwchradd fanylion am y band y rhoddwyd hi ynddo, y data y seiliwyd y bandio arno a chanllawiau manwl i’w helpu i ddehongli a deall y bandio, ar ddechrau tymor yr hydref.

“Byddwn hefyd yn rhannu’r wybodaeth fandio gydag awdurdodau lleol ac yn cyflwyno cyfres o ddeunyddiau a gweithgareddau cyfathrebu i sicrhau y ceir dealltwriaeth mor gyflawn â  phosib o’r system a’i phwrpas,” meddai Leighton Andrews.

“Yn achos ysgolion uwchradd, bydd y bandio cyntaf hwn yn defnyddio data o ganlyniadau arholiadau allanol 2010.

“Diben hyn yw sicrhau bod gan ysgolion, cyrff llywodraethu, ac awdurdodau lleol, ar ddechrau tymor yr hydref, wybodaeth fandio yn ogystal â gwybodaeth allweddol arall am berfformiad i lywio trafodaethau am berfformiad, cymharu a phennu targedau.

“Pan fydd data arholiadau 2011 gennym, caiff y bandiau eu diweddaru ac anfonir hysbysiad arall at yr ysgolion.”