Andrew RT Davies
Andrew RT Davies yw arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Dywedodd ei fod yn bwriadu “cynnig dewis amgen i’r hyn y mae pobol Cymru wedi ei dderbyn ers 12 mlynedd”.

Bu’n rhaid cynnal etholiad i ddewis arweinydd newydd ar ôl i’r cyn-arweinydd, Nick Bourne, golli ei sedd yn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.

Fe enillodd y Ceidwadwyr ddwy sedd ychwanegol yn yr etholiad ar 5 Mai, gan feddiannu lle Plaid Cymru yn brif wrthblaid yn y Cynulliad.

Wrth siarad ar ôl ei fuddugoliaeth talodd deyrnged i’w wrthwynebydd, Nick Ramsay, a hefyd ei olynydd yn y swydd, Nick Bourne.

“Does dim amheuaeth na fyddai’r grŵp a’r blaid yma wedi cyrraedd lle’r ydym ni heddiw heb ymdrech Nick a’r tîm weithiodd drwy’r blynyddoedd anodd, o ’99 hyd at y ‘00au cynnar.

“Mae brwydr Nick wedi symud y grŵp yma yn ei flaen a symud datganoli yn ei flaen ac rydw i’n credu fod Cymru mewn llawer gwell lle nag oedd 10 i 15 mlynedd yn ôl.

“Mae wedi bod yn fraint brwydro yn erbyn Nick, ac a bod yn deg dw i ddim yn meddwl fod yna wahaniaeth mawr rhyngom ni yn ideolegol.

“Rydw i’n credu ein bod hi’n gyd-weithwyr cryfach a gwell oherwydd yr ornest dros y chwe wythnos diwethaf.”

Ychwanegodd fod “Cymru yn fy DNA. Rydw i’n Gymro ac unoliaethwr balch ac yn hynod o siomedig wrth weld Cymru ar waelod y cynghreiriau iechyd, addysg ac economaidd.

“Rydw i eisiau i bobol edrych ar y Cymry a dweud: ‘Maen nhw’n gwybod sut i’w gwneud hi yng Nghymru’.”

Ras agos

Cyhoeddwyd y canlyniad yn Stadiwm Swalec, Caerdydd, heddiw. Cipiodd Andrew RT Davies 53.1% o’r bleidlais tra bod Nick Ramsay wedi derbyn 46.7%.

Roedd tua 5,000 o aelodau’r blaid yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad rhwng Andrew RT Davies a Nick Ramsay.

Roedd 49% wedi pleidleisio, a daeth y cyhoeddiad bron i ddwy awr yn hwyr.

Mae Andrew RT Davies yn Aelod Cynulliad dros ranbarth canol de Cymru a Nick Ramsay yn Aelod Cynulliad dros Sir Fynwy.

Yn ystod yr ymgyrch dadleuodd Andrew RT Davies fod angen i’r Ceidwadwyr Cymreig gipio’r tir canol os oedden nhw am sicrhau rhagor o lwyddiant etholiadol.

Roedd Nick Ramsay wedi dadlau fod angen i’r blaid ennill cefnogaeth ymysg y difreintiedig yng Nghymru.

Croesawodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru, benodiad arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae Andrew a Nick yn haeddu cael eu llongyfarch am y modd y maen nhw wedi mynd ati yn ystod yr ymgyrch yma,” meddai.

“Rydw i’n gwybod fod Andrew yn deall y pwysau sydd arno i gadw llygad ar y llywodraeth Lafur ac adeiladu economi cryfach yng Nghymru.”