Taflenni 'Ie' dros Gymru
Costiodd refferendwm Cymru ar ragor o bwerau deddfu i’r Cynulliad tua £6m, yn ôl adroddiad gan y Comisiwn Etholiadol.

Mae’r adroddiad yn dangos faint gafodd ei wario ar yr ymgyrch, y bleidlais a’r cyfri, gan gynnwys costau’r Comisiwn Etholiadol wrth hybu’r refferendwm yn y lle cynta’.

Y cyfanswm terfynol oedd £5.89m.

Roedd y refferendwm wedi costio llai na’r disgwyl am nad oedd yna ymgyrchoedd swyddogol.

Roedd y Comisiwn Etholiadol hefyd wedi llwyddo i gyfuno rhai costau â’r refferendwm ar y bleidlais amgen ym mis Mai.

Yn ôl yr adroddiad fe ddylai Llywodraeth San Steffan gyflwyno rheolau safonol ar gyfer refferenda’r dyfodol.

“Byddai rheolau generig yn sicrhau y byddai angen i ni fynd i’r afael â’r dyddiad, y cwestiwn a’r etholfraint yn unig wrth baratoi ar gyfer refferenda’r dyfodol,” meddai’r adroddiad.

Roedd ffigyrau eraill diddorol yn yr adroddiad:

• Dim ond 24% o bobol Cymru oedd yn ymwybodol o’r refferenda ym mis Ionawr 2011

• Erbyn diwrnod y bleidlais roedd 75% yn ymwybodol ohono

• Roedd 70,000 wedi gwylio ymdriniaeth y BBC o’r refferendwm

• Roedd 11,000 wedi gwylio ymdriniaeth S4C