Ned Thomas
Yn ôl enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni, cafodd ei gomisiynu i sgrifennu cofiant ar ôl methiant y cais i sefydlu papur newydd dyddiol, Y Byd.

Ond dywed Ned Thomas nad yw’r gyfrol Bydoedd: Cofiant Cyfnod yn adrodd holl hanes yr hyn ddigwyddodd i’r fenter.

“Dw i ddim yn un am bregeth. Ond wrth gwrs dw i’n gobeithio bod yna ryw ehangder. Dw i’n feirniadol o lot o bethau, gwleidyddol ac yn y blaen,” meddai.

Mae’n cydnabod y gallai ennill Cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2011 fod yn wobr gysur iddo am na wireddwyd ei freuddwyd i gael papur newydd dyddiol Cymraeg.

“Mae hynny wedi fy nharo i ond i ddweud y gwir mae’n gyfle i fi ddweud nad hanes Y Byd yw prif bwnc y llyfr o bell ffordd,” meddai.

Dyw’r stori gyfan ddim wedi dod i’r amlwg am yr hyn ddigwyddodd i’r papur, yn ôl Ned Thomas.

“Fy nheimlad i yw efallai bod y bennod cyn yr ola’ am Y Byd, yn cael ei sgwennu yn rhy hwyr i fod yn newyddiaduraeth amserol ond yn rhy gynnar i gael y pellter, ac mae ‘na ffeithiau eto i ddod i’r golwg yn fanna.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 14 Gorffennaf