Andrew RT Davies
Mae Ceidwadwyr Cymru wedi galw am wella’r modd y mae Cymru yn cael ei farchnata fel cyrchfan gwyliau a busnes mewn gwledydd eraill.

Yn ystod dadl yn y Senedd tynnodd y blaid sylw at bwysigrwydd twristiaeth i economi Cymru, gan alw ar y llywodraeth i wneud mwy o ymdrech i ddenu rhagor o bobol a busnes i’r wlad.

“Mae’n anffodus ond ar hyn o bryd dyw Cymru ddim yn gwerthu ei hun a hyrwyddo beth sydd gennym ni i’w gynnig,” meddai’r llefarydd busnes, Andrew RT Davies.

“Mae yna ddigon o gyfleoedd i ddenu mwy o dwristiaid, busnes a buddsoddiad ond dydyn ni ddim yn eu cymryd nhw.

“Mae 10% o economi Cymru yn ddibynnol ar dwristiaeth. Yn 2009 fe wariodd twristiaid bron i un biliwn a hanner o bunnoedd yma.

“Mae’r ffigyrau rheini yn dweud popeth ac mae angen i Lywodraeth Cymru ddechrau cymryd y maes o ddifri.

“Fe fyddai arolwg o’r sector yn rhoi’r data i ni sydd ei angen er mwyn gallu buddsoddi ein hadnoddau yn y marchnadoedd mwyaf addawol.

“Mae angen egni a gwaith caled er mwyn creu brand cryf fydd yn gwerthu Cymru yn fyd-eang.

“Mae’r potensial yno – ond mae angen cymryd gafael ynddo a’i ddefnyddio.”