Peter Hain
Mae cyn Ysgrifennydd Cymru yn galw am newid seddi’r Cynulliad Cenedlaethol a chael gwared ar bleidleisio cyfrannol.

Yn ôl Peter Hain, llefarydd y Blaid Lafur ar Gymru, mae angen torri nifer yr etholaethau i 30 – yr un peth â’r nifer newydd o etholaethau seneddol.

Fe fyddai hynny’n golygu cael dau aelod ym mhob etholaeth a chael gwared ar restrau rhanbarthol – a’r system PR sydd wedi sicrhau nad yw Llafur yn cael mwyafrif llethol bob tro.

Roedd pawb yn gytûn bod angen addasu’r etholaethau, meddai Peter Hain ar Radio Wales. Mae’r Senedd yn Llundain yn y broses o dorri nifer seddi Cymru yn San Steffan o 40 i 30.

‘Osgoi dryswch’

Yn ôl y cyn Ysgrifennydd Gwladol, mae angen i etholaethau’r Cynulliad ddilyn yr un patrwm, rhag achosi dryswch.

Mae hefyd yn dadlau bod pleidlais y refferendwm ar system AV ar gyfer San Steffan yn dangos bod pobol yn erbyn pleidleisio cyfrannol.

Fe fyddai cael gwared ar y seddau rhanbarthol, meddai, hefyd yn cael gwared ar y rhwyg rhwng y “ddau ddosbarth” o AC, rhai etholaeth a rhanbarth.