Archfarchnad Morrisons
Mae Cyngor Torfaen wedi rhoi sêl bendith i gynllun sy’n â’r nod o greu 1,200 o swyddi yng Nghwmbrân.
Dywedodd y cyngor mai’r cynllun i ailddatblygu safle ffatri Arvin Meritor ar gyrion Cwmbrân yw’r “prosiect adfywio mwyaf yn hanes y dref”.
Mae’r cynlluniau yn cynnwys archfarchnad Morrisons 37,000 troedfedd, gwesty 60 ystafell, dau adeilad fydd yn cynnwys swyddfeydd, a maes parcio newydd fydd â lle ar gyfer 497 o geir.
Mae disgwyl y bydd y gwaith yn dechrau ym mis Ionawr ar ôl i’r cyngor gymeradwyo’r cynllun mewn cyfarfod ym Mhont-y-Pwl brynhawn ddoe.
Mae’r cyngor hefyd wedi rhoi caniatâd i gwmni darnau ceir Arvin Meritor chwalu ac ymestyn eu ffatri ar y safle.
Bydd y cwmni yn cyflogi 150 yn fwy o staff, gan gynnyddu eu nifer i 550.
Dywedodd arweinydd cyngor Torfaen, Bob Wellington, ei fod yn “gynllun gwych”.
“Mae pobol Cwmbrân eisiau rhagor o ddewis a dyna fyddwn nhw’n ei gael. Mae hwn yn gynllun o’r radd flaenaf.”