Mulfrain gwynion
Mae dyn wedi ei ddallu mewn un llygad ar ôl i aderyn bigo pelen y llygad allan o’i dwll.

Treuliodd Michael Buckland dri diwrnod yn cael ei drin gan arbenigwyr llygaid ar ôl i fulfran wen bigo ei lygaid pan oedd ar wyliau yn ne Cymru.

Clywodd y dyn 38 oed o Gaerdydd fod siawns “bach iawn” y byddai yn ail-ennill ei olwg yn y llygad.

Roedd Michael Buckland ar ei wyliau ar Benrhyn Gwyr gyda’i gariad pan welodd yr aderyn oedd wedi ei anafu.

Cododd yr aderyn â’r nod o’i gario at dir uwch, ag osgoi’r llanw oedd yn dod i mewn.

Ond collodd yr aderyn ei bwyll pan welodd teulu yn y pellter oedd yn mynd a’u ci am dro, ac ymosododd ar Michael Buckland.

‘Twll’

“Roeddwn i’n ceisio ei achub ond yn ei ofn dechreuodd ymosod arna’i,” meddai.

“Roedd gen i groen oedd wedi dod yn rhydd ar dop fy nhrwyn a hollt fawr ar dop fy nhrwyn. Codais fy llaw i fy wyneb ac roedd dwll mawr le bu fy llygad.

“Roedd fy llygad yn hongian allan ac roedd rhaid i fi ei stwffio yn ôl i mewn ar y traeth. Roeddwn i’n meddwl nad oedd yno o gwbl cyn i fi ei deimlo ar yr ochor.”

Aethpwyd ag ef i Ysbyty Singleton, Abertawe. Roedd angen llawdriniaeth ar ei lygad, gan gynnwys 11 o bwythau.

Cafodd wybod na fydd yn gallu parhau â’i waith yn weldio.

‘Gofal’

“Dywedodd y llawfeddyg fod yr aderyn wedi fy mhigo tua thair gwaith. Fe aeth y pig drwy ganol fy llygad,” meddai.

“Y cwbl ydw i’n gallu ei weld drwy’r llygad yna nawr yw golau llachar. Lliwiau a golau llachar, a dyna ni.”

Dywedodd elusen adar RSPB fod digwyddiadau o’r fath yn “ofnadwy o brin”.

“Dylid trin anifeiliaid gwyllt â gofal mawr,” meddai llefarydd.

“Y peth gorau i’w wneud wrth weld anifail sydd wedi ei anafu yw rhoi gwybod i’r RSPCA.”