Dr Barry Morgan
Bydd Dr. Barry Morgan, Archesgob Cymru wedi galw cyfarfod i drafod Eglwys Yr Holl Saint yn y Rhondda ar ôl protest dros gau’r eglwys.

Daw hyn wedi i’r protestwyr ddweud eu bod nhw’n bwriadu protestio yng ngardd cartref Archesgob Cymru yng Nghaerdydd.

Fe fydd criw o ymgyrchwyr a Chyfeillion Eglwys Yr Holl Saint sy’n ceisio sicrhau dyfodol yr  Eglwys yn cynnal y brotest yn Llandaf am 5.30yh.

“Rydyn ni eisiau i Eglwys Yr Holl Saint aros ar agor,” meddai’r Cynghorydd Gerwyn Evans wrth Golwg360 cyn dweud bod ymgyrchwyr yn protestio oherwydd eu bod wedi’u “gadael  allan” o’r trafodaethau a heb gael rhoi eu barn ar y mater.

Mae aelodau Eglwys Yr Holl Saint ym Maerdy wedi bod yn cymryd eu tro i aros yn yr eglwys ers 3 Gorffennaf er mwyn gwrthwynebu cau’r adeilad.

Mae Golwg360 bellach wedi cael cadarnhad bod yr  Archesgob  wedi galw am gyfarfod o Gyngor Plwyfol yr Eglwys (PCC) Nos Fawrth nesaf i drafod y mater.

Y Cyngor oedd wedi penderfynu cau Eglwys Yr Holl Saint yn y lle cyntaf. Yn ôl yr Eglwys yng Nghymru mae angen £400,000 er mwyn adnewyddu’r adeilad.

“Nid oes gan yr Eglwys yng Nghymru unrhyw agenda cudd ar hyn o gwbl. Mae’n fater syml o ymarferoldeb a chronni ein hadnoddau er mwyn sicrhau y gall y gymuned barhau i addoli ym Maerdy,” meddai’r Archesgob mewn datganiad.

‘Ffodd ymlaen’

“Rydyn ni angen ffeindio ffordd ymlaen ac mae’n ymddangos yn synhwyrol i mi nawr i gynnal cyfarfod o Gyngor Plwyfol yr Eglwys, i wrando ar beth mae’r aelodau’n ddweud a thrafod yr holl opsiynau,” meddai’r Archesgob heddiw.

Roedd yr eglwys wedi dweud eu bod eisiau “parhau i ddarparu gweinidogaeth ym Maerdy” a’u bod  yn “ddiolchgar i’r ganolfan gymunedol am ganiatáu i ni ddefnyddio’r gofod am ddim ar gyfer addoli”.

“Rydym bellach wedi cael gwybod mai trefniant dros dro yw hwn ac y bydd angen i ni wneud cais i’r ymddiriedolwyr os ydym am iddo fod yn barhaol,” meddai’r llefarydd.

“Y gobaith yw y byddwn yn dod o hyd i ateb parhaol fydd yn galluogi aelodau’r eglwys i gyfarfod mewn adeilad sy’n addas at y diben ac sydd ddim yn cymryd eu holl ynni ac arian i’w cynnal.”

Mae’r cyngor, sydd wedi penderfynu cau Holl Saint yn cynnwys aelodaeth etholedig o’r tair eglwys leol ym Maerdy, Ferndale a Tylorstown. Mae’r cyfarfodydd ar gyfer aelodau’n unig.

‘Mynd i unlle’

Dros yr wythnosau diwethaf, mae’r Cynghorydd Gerwyn Evans wedi dweud wrth Golwg360 nad yw’n teimlo bod rheswm dros gau’r eglwys.

“Rydan ni’n credu bod dyfodol i’r Eglwys ac rydan ni am gario malen i addoli yno. .. Dydw i ddim yn mynd i unlle,” meddai.

Roedd trigolion lleol wedi cynnal gwasanaeth yn yr Eglwys ddydd Sul diwethaf –  er gwaethaf trefniant i gynnal gwasanaethau yn Neuadd y Gymuned, ers i’r eglwys gau.

“Fe aeth y gwasanaeth yn wych,” meddai Gerwyn Evans wrth Golwg360. “Roedd tua 80 i 90 o bobl yno.  Gwasanaeth syml oedd e, gan gynnwys gweddïau, cwpwl o emynau a’r neges syml ein bod eisiau i’r Eglwys aros ar agor,” meddai.

Roedd wedi clywed mai “tua phedwar” oedd yn bresennol yn y gwasanaeth yn Neuadd y Gymuned.

“Mae’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn,” meddai. “Daeth llond llaw o bobl at ei gilydd nos Sadwrn a dechrau paentio’r tu mewn i’r Eglwys. Mae’n edrych yn lyfli nawr,” meddai.

‘Ddim yn fodlon symud’

“Dydyn ni ddim yn fodlon symud. Cyn gynted ag y byddwn ni’n gwneud hynny – fe allen nhw gymryd popeth a chategoreiddio’r Eglwys fel adeilad sydd wedi’i adael yn wag.

“Rydan ni’n galw ar i Gyngor Plwyfol yr Eglwys (PCC) i wyrdroi’r penderfyniad i gau’r Eglwys a rhoi blwyddyn arall i ni. Beth yw 12 mis arall pan mae wedi bod ar agor ers 126 o flynyddoedd?”

Yn ôl yr Eglwys yng Nghymru mae angen £400,000 er mwyn adnewyddu’r adeilad. Ond, mae Gerwyn Evans mae yna ansicrwydd ynglŷn â’r union ffigwr.

‘Direct Debit’

Mae cryn drafodaeth am newidiadau posibl i’r Eglwys yn y dyfodol, meddai cyn son am y casgliad.

“Efallai nad pasio plât bychan o gwmpas ddylen ni wneud – ond bod yn fwy modern a gwneud pethau drwy direct debit,” meddai.

“Mae hyn i gyd wedi agor fy llygad – rydan ni’n disgwyl i’r Eglwys fod yma o hyd, ond rydan ni wedi gorfod cymryd cam yn ôl ac ailystyried ar ba ffurf.”