Mae’n bosib mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn Ewrop i wahardd smygu mewn ceir sy’n cario plant, meddai Carwyn Jones, y Prif Weinidog heddiw.

Dywedodd Carwyn Jones y byddai’n ystyried cyflwyno deddf yn ddiweddarach yn nhymor pum mlynedd y Cynulliad.

Roedd am aros i weld yn gyntaf a fydd rhaglen o ymgyrchoedd a chynlluniau atal smygu yn arwain at leihau cysylltiad plant â mwg ail-law.

Prif amcan unrhyw waharddiad fyddai diogelu plant rhag mwg ail-law, ond fe fyddai hefyd yn rhoi pwysau ar oedolion i roi’r gorau i smygu.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru mai dyma’r “cam rhesymol nesaf” yn dilyn y gwaharddiad ar smygu mewn lleoedd caeëdig fel swyddfeydd, tafarndai a thai bwyta.

Peryglus’

Wrth ddatgelu’r polisi cyfeiriadd at arolwg Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol, sy’n dangos fod ryw 20 y cant o blant ysgol 11-16 oed yng Nghymru wedi gorfod anadlu mwg ail-law y tro diwethaf y trafaelon nhw mewn car.

Roedd plant o deuluoedd llai cefnog ddwywaith yn fwy tebygol na’r rheini o’r teuluoedd mwyaf cefnog o fod wedi gwneud.

“Smygu sy’n achosi’r nifer fwyaf o farwolaethau cyn pryd y mae modd eu hosgoi yng Nghymru. Bob blwyddyn, mae rhyw 5,600 o bobl yn marw oherwydd afiechydon sy’n ganlyniad i smygu,” meddai Carwyn Jones.

“Mae mwg ail-law yn arbennig o beryglus i blant, yn enwedig mewn car sy’n gyfyng o ran lle a heb unman ynddo i ddianc rhag y cemegau gwenwynig sydd mewn sigarets.

“Gwnaethon ni addo yn ein maniffesto y byddem ni’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, yn enwedig y drwg sy’n cael ei achosi gan dybaco a’i effaith ar blant.

“Cymru oedd y wlad gyntaf ym Mhrydain i wahardd smygu mewn lleoedd cyhoeddus ac os bydd angen, wnawn ni ddim peidio ag ystyried cyflwyno deddf i ddiogelu plant rhag mwg ail-law.

“Roedd y pwnc hwn yn rhan o’r ymgynghoriad ar ein Cynllun Gweithredu ar Reoli Tybaco ac roedd y mwyafrif o’r ymatebion o blaid newid y gyfraith i wahardd smygu mewn ceir sy’n cario plant.

“Mae’r gyfraith eisoes yn gwahardd smygu mewn cerbydau sy’n cael eu defnyddio fel rhan o waith cyflog neu wirfoddol gan fwy nag un person.  Byddai estyniad i hynny yn gam rhesymegol ymlaen.

“Byddwn i ddechrau yn cynnal ymgyrch newydd yn erbyn smygu ac yn cynnal cynlluniau fel rhaglenni i helpu pobl i stopio.  Ond byddwn yn ystyried newid y gyfraith hefyd os gwelwn nad yw plant yn dod i lai o gysylltiad â mwg ail-law yn y tair blynedd nesaf.

“Mae mwy a mwy o bobl yn credu bod anadlu mwg ail-law yn beth annerbyniol a byddai deddfu ar y mater yn ddatganiad cryf gennym o’n hymrwymiad i iechyd ein plant.”

‘Methu dianc’

Dywedodd Dr Tony Jewell, Prif Swyddog Meddygol Cymru, fod “plant yn arbennig o agored i effeithiau drwg smygu, ac yn methu dianc rhag mwg ail-law”.

“Mae nhw’n fwy tebygol hefyd o ddatblygu cyflyrau tymor hir fel asthma yn ifanc a fydd yn effeithio arnyn nhw am weddill eu bywydau,” meddai.

“Mae’r dystiolaeth yn gryf bod lefelau cemegau gwenwynig mewn ceir yn uchel iawn, hyd yn oed â’r ffenestri ar agor.

“Bydd manteision eraill i iechyd y cyhoedd hefyd, gan fod tystiolaeth yn dangos fod plant yn fwy tebygol o ddechrau smygu a phara i smygu wedi iddyn nhw dyfu’n oedolion os ydyn nhw’n gweld eu rhieni’n smygu.”