Prifysgol Bangor
Mae’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi dweud heddiw y dylai Prifysgolion Bangor ag Aberystwyth uno.

Datgelodd hefyd y bydd Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam, yn cael ei lywodraethu gan Fangor ag Aberystwyth yn y dyfodol.

Mae’r adroddiad hefyd yn galw ar Brifysgol Morgannwg, Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd a Phrifysgol Cymru, Casnewydd i uno, a Phrifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe i uno.

“Ym mis Mawrth eleni, gofynnais i’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch yng Nghymru (CCAUC) roi cyngor imi ar strwythur y sector addysg uwch yng Nghymru,” meddai.

“Mae’r Cyngor bellach wedi cyflwyno ei adroddiad, sy’n pennu argymhellion clir iawn ar gyfer dyfodol y sector.

“Dylai Prifysgolion Aberystwyth a Bangor ehangu a dwysáu eu partneriaeth strategol (gan gynnwys datblygu tuag at brosesau llywodraethu integredig), a datblygu cynllun hirdymor i uno.

Ychwanegodd y “dylai Prifysgol Glyndŵr ddatblygu perthynas strwythurol gref gyda nifer o golegau Addysg Bellach o fewn strwythur grŵp o dan arweiniad Prifysgolion Aberystwyth a Bangor, er mwyn ehangu ar y ddarpariaeth Addysg Uwch sydd ar gael yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, a chael mwy o gydlyniaeth ranbarthol.”

Prifysgolion eraill

Wrth drafod prifysgolion eraill Cymru, mae’n dweud:

“Dylai Prifysgol Morgannwg, Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd a Phrifysgol Cymru, Casnewydd uno i greu prifysgol gwir ‘fetropolitan’ yn Ne-ddwyrain Cymru, fel sy’n bodoli mewn ardaloedd dinesig o faint tebyg ledled Prydain.

“Dylai Prifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe uno fel sydd wedi’i gynllunio eisoes; o bosib, ond nid o angenrheidrwydd gyda Phrifysgol Cymru hefyd; a dylent gael mwy o gydlyniaeth ranbarthol gyda Phrifysgol Abertawe. “

Mae hefyd yn dweud y dylai Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe gydweithio, , mewn meysydd y byddent yn fwy effeithiol o wneud hynny, a chydweithio hefyd â’u cymdogion i sicrhau cydlyniaeth ranbarthol.

Ymateb myfyrwyr

Bydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar eu hadroddiad, Dyfodol Addysg Uwch yng Nghymru, a fydd yn dod i ben ym mis Hydref.

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Myfyrwyr Cenedlaethol Cymru eu bod nhw’n bwriadu cyfrannu at yr ymgynghoriad er mwyn “sicrhau y canlyniad gorau I’n disgyblion”.

“Rydyn ni’n glir ein barn na ddylai uno prifysgolion olygu colligallu lleol ac mae’n hollbwysig cynnal yr amrywiaeth o fewn y sector fel bod myfyrwyr yn gallu cael mynediad i’r sefydliadau sy’n diwallu eu hanghenion nhw orau.”

Llai o brifysgolion cryfach

“Mae’r angen i brifysgolion sydd â’r capasiti a’r màs critigol i weithredu’n ddeinamig, yn effeithiol ac yn effeithlon yn egwyddor sydd wedi’i hen sefydlu ym mholisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg uwch,” meddai Leighton Andrews.

“Yn ein maniffesto ar gyfer etholiad y Cynulliad ym mis Mai, roedd Llafur Cymru yn glir o’r farn ein bod am gael llai o Brifysgolion cryfach.

“Rwyf wedi ystyried argymhellion Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn ofalus.  Maent yn seiliedig ar ddadansoddiad y Cyngor o gryfderau a gwendidau presennol y sector, a’i allu i weithredu’n effeithiol ac i fod yn gynaliadwy yn yr hirdymor.

“Rwy’n credu bod adroddiad CCAUC yn cyflwyno achos argyhoeddiadol dros newid, ac yn cynnig sail resymegol clir dros y strwythur a ffefrir sy’n cael ei gynnig gan y Cyngor.  Rwyf felly o’r farn y dylem dderbyn cyfeiriad cyffredinol argymhellion CCAUC ar hyn o bryd.

“Heddiw, rwy’n cyhoeddi adroddiad CCAUC yn llawn, ac yn bwriadu gofyn am sylwadau dros yr haf gan randdeiliaid/y cyhoedd ar argymhellion y Cyngor.  Byddaf yn gwahodd pob rhanddeiliad sydd â diddordeb i gynnig sylwadau ar y dadansoddiad a’r argymhellion sydd yn yr adroddiad, cyn llunio barn bendant ar y strwythur mwyaf addas ar gyfer y dyfodol.

“Cyn gwneud unrhyw benderfyniad a gorchymyn diddymu terfynol mewn perthynas â chorfforaeth addysg uwch unigol, byddwn yn ymgynghori ymhellach â’r sefydliadau yr effeithir arnynt.

Roedd yn galonogol i glywed y newyddion heddiw bod cyrff llywodraethol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru yn cymryd camau proactif tuag at y strwythur a gafodd ei argymell gan CCAUC.  Byddaf yn ystyried y cynnig ochr yn ochr ac eraill yng ngoleuni’r sylwadau a gafwyd.”